Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00845
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£46,485 i £55,295 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
20 Ebr 2025
Dyddiad Cyfweliad
13 Mai 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd amser llawn am gyfnod penodol yw hon tan 31 Mawrth 2026.

Mae SeRP (Secure eResearch Platform) yn set dechnoleg a ddatblygwyd gan y grŵp Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio gyda sefydliadau ledled y DU ac yn fyd-eang i hwyluso mynediad at wybodaeth a phrofiad ynghylch y platfform. Mae SeRP yn hwyluso'r gwaith o storio a rhannu setiau data ymchwil yn ddiogel at ddiben cynorthwyo gweithgarwch ymchwil.

Mae'r tîm technegol yn y Grŵp Gwyddor Data Poblogaethau'n datblygu atebion i ategu gweithgarwch ymchwil a gwella'r mynediad at setiau data ymchwil. Cyflawnir hyn drwy archwilio'r cyfleoedd diweddaraf a gynigir gan gynhyrchion ffynhonnell agored a chynhyrchion sydd ar gael gan werthwyr, gyda thîm datblygu sy'n canolbwyntio ar ddarparu atebion i ddiwallu anghenion y gymuned ymchwil yn y DU ac yn fyd-eang.  

Diben rôl y Meistr Scrum yw arwain y tîm datblygu drwy'r dirwedd datblygu Ystwyth, er mwyn sicrhau y datblygir cynhyrchion meddalwedd priodol ac addas i'r diben sy'n bodloni'r meini prawf ansawdd gofynnol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr