Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00848
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
15 Ebr 2025
Dyddiad Cyfweliad
7 Mai 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol yw hon tan fis Mawrth 2028, amser llawn.

Mae'r rôl hon yn gyfle cyffrous i ymuno â'r grŵp Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe a gweithio ar amryw o brosiectau canser sy'n cyd-fynd â Strategaeth Ymchwil Canser Cymru (CreST; https://walescancerresearchcentre.org/wp-content/uploads/CReSt-English-FINAL.pdf) a ariennir gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW). Y prif ffocws fydd mwyafu'r defnydd o ddata canser aml-ddull a gesglir yn rheolaidd er mwyn ymchwilio i epidemioleg canserau ac archwilio methodolegau newydd er mwyn canfod canser yn gynnar a chael meddyginiaeth benodol ar ei gyfer. Swydd cymrawd ymchwil yw hon ac rydym yn disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gael annibyniaeth dros ei agenda ymchwil a mynd ati i geisio cyfleoedd cyllid newydd i gryfhau'r tîm presennol a datblygu annibyniaeth ei yrfa. Byddwch yn cael y cyfle i rannu eich gweledigaeth os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Cyflawni Strategaeth Ymchwil Canser Cymru (CreST), yn benodol Thema 1 'Oncoleg Fanwl a Mecanistig' a Thema 6 'Dulliau atal canser yn seiliedig ar iechyd y boblogaeth, diagnosis cynnar, gofal sylfaenol, ac ymchwil gwasanaethau iechyd".
  • Cefnogi trosi cwestiynau ymchwil yn fethodolegau y gellir eu cynnal yn erbyn Banc Data SAIL. Datblygu methodolegau i lunio cyhoeddiadau academaidd effaith uchel.
  • Nodi a chynnal gweithgareddau ymchwil sy'n defnyddio data canser aml-ddull cysylltiedig megis genomeg, delweddu, data heb ei strwythuro a chofnodion gofal iechyd electronig. Mae gan Gymru amrywiaeth gyfoethog o adnoddau data sydd â photensial enfawr am gynnal gwaith ymchwil canser newydd.
  • Creu cydweithrediadau ag ymchwilwyr a chlinigwyr ar draws y WCRC i nodi cyfleoedd newydd am ymchwil. Bydd y WCRC yn ariannu cymuned ymchwil fywiog tan 2030 a disgwylir iddi wneud camau breision tuag at osod Cymru ar y brig o ran cynnal ymchwil i ganser.

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ymysg y 5 sefydliad gorau yn DU yn gyson am ragoriaeth ymchwil ers REF2014, gydag amgylchedd cydnabyddedig am feithrin diwylliant o ragoriaeth, cydweithio ac arloesedd.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr