- Rhif y Swydd
- SU00877
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- Cystadleuol
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 11 Ebr 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 12 Mai 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Professor Andrew Thomas a.j.thomas@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae ein grŵp Busnes a Rheoli'n gartref i dros 70 o academyddion ac yn gartref i Academïau Dysgu Dwys, Gofal ac Iechyd sy'n seiliedig ar Werth ac Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru https://lshubwales.com/Innovation-ILA, a rhaglen Arweinyddiaeth IoN https://ionleadership.co.uk/ a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Rydym am benodi ymchwilydd deinamig ynghyd ag athro ymroddedig ym maes Arloesi a Rheoli i wneud cyfraniad cadarnhaol at fywyd yr adran. Byddai profiad o arweinyddiaeth ymchwil a gweithgareddau rhyngwladoli'n fanteisiol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus yn ogystal ag arbenigedd a ddangosir drwy ymchwil ac addysgu yn y meysydd canlynol:
- Arloesedd cynnyrch,
- Entrepreneuriaeth,
- Systemau busnes
Ceir rhagor o wybodaeth yn http://www.swansea.ac.uk/som/staff/a&f/
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg ac Ymchwil (Rmchwil). Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
- Rhestr gyhoeddiadau – ar gyfer llwybr Ymchwil Uwch;
- Datganiad yn manylu ar eich strategaeth ymchwil ac addysgu – dim mwy na 1000 o eiriau