Diweddaru ein cyfleusterau!

Rydym wedi cael ein cae 3G newydd sbon ers rai misoedd nawr, ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr! Ym mis Ebrill, cynhaliodd Parc Chwaraeon Bae Abertawe y gemau Varsity mwyaf yn y DU gyda bron 10,000 o fyfyrwyr a staff o Abertawe a Chaerdydd yn ymuno â ni yn ein cyfleusterau, ac roedd hi'n wych gweld ein cae newydd sbon ar waith gyda thimau'n datgloi eu potensial arno. 

Mae'r cae 3G synthetig newydd yn cynnig cae chwarae mwy diogel a chynaliadwy i'n timau chwaraeon, sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon gwahanol.

Ar ôl misoedd o gynllunio, dechreuodd y gwaith ar y prosiect 3G ddydd Llun 4 Medi 2023.

Bu'r contractwyr yn gweithio'n ddiflino drwy fisoedd gwlyb y gaeaf i gyflawni'r prosiect, ac er eu bod yn dilyn yr amserlen ar gyfer y rhan fwyaf o'r gwaith, symudodd y dyddiad cwblhau cychwynnol o 6 Chwefror yn y diwedd wrth i'r tywydd gwael parhaus rwystro cwblhau'r gwaith. Serch hynny, cwblhawyd y gwaith erbyn dydd Gwener 5 Ebrill a bellach mae ar waith gydag archebion i'w ddefnyddio'n barhaus.

Mae'r cae yn faint llawn, sy'n gyfleuster sy'n cydymffurfio'n llawn ar gyfer Rygbi'r Byd ac o safon FIFA a fydd yn ein galluogi i gynnal gemau rygbi hyd at lefel Rygbi Uwch BUCS, yn ogystal â holl gemau pêl-droed BUCS a chynghreiriau lleol a thimau ieuenctid yng nghynghreiriau Cymru. Mae'r cae hefyd yn addas ar gyfer pêl-droed Americanaidd, rygbi’r gynghrair, Lacrosse a Ffrisbi Eithafol, ymysg chwaraeon eraill.

Mae llifoleuadau llawn ar gyfer y cyfleuster, sy'n ein galluogi i gynnal gemau BUCS a chynghreiriau lleol gyda'r hwyr yn ogystal â hyfforddiant drwy gydol y gaeaf. I roi ychydig o gyd-destun i hyn, roedd gweithgareddau blaenorol yn gyfyngedig i tua 10 i 15 awr yr wythnos ar y caeau glaswellt, os oedd y tywydd yn caniatáu. Bydd hyn bron yn dyblu, gyda dim ond tywydd eithafol yn atal gemau rhag mynd yn eu blaen.

O ran beth mae hyn yn ei olygu i chwaraeon myfyrwyr, bydd y cae newydd gobeithio'n hwyluso timau HP i ddychwelyd i hyfforddi ar Lôn Sgeti gyda'r Sied yn agos iawn er mwyn cyfuno sesiynau ar y cae â sesiynau ymestyn a chyflyru; bydd yn galluogi mwy o amser hyfforddi (a gwell goleuadau!) i'n timau BUCS a byddwn yn gallu cynnal mwy o gemau ar ddydd Mercher drwy chwarae gemau ar ôl ei gilydd;  ac rydym yn gobeithio gweld amryw o gynghreiriau rhyng-golegol yn dechrau hefyd.

Rydym yn disgwyl i'r cae newydd drawsnewid yr hyn sy'n cael ei gynnig a'r ddarpariaeth ar gyfer clybiau Chwaraeon Abertawe a fydd yn elwa o fynediad, gan arwain at brofiad gwell i bawb, wrth gynnig y cyfle gorau posib i dimau Chwaraeon Abertawe ffynnu.

Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe'n gartref i gyfleusterau chwaraeon Prifysgol Abertawe ac mae'n cynnig amgylchedd chwarae i'n hathletwyr a'n clybiau sy'n addas ar gyfer llwyddiant chwaraeon. Dysgwch fwy am ein cyfleusterau chwaraeon a darganfod y chwaraeon a'r gweithgareddau anhygoel a gynhelir yma, gan gynnwys trac athletau 400m, ein neuadd chwaraeon amlbwrpas a'n pwll nofio 8 lôn 50m.

Rhannu'r stori