Clybiau Chwaraeon Prifysgol Abertawe yn Dathlu Pŵer Pinc wrth Godi Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron

Wrth i ni edrych yn ôl ar fis Hydref, cymerwn eiliad i fyfyrio ar ymdrechion gwych ein clybiau chwaraeon i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer canser y fron. O droi'r eisteddleoedd yn binc i gynnal digwyddiadau llawn egni, mae ein timau wir wedi gwneud gwahaniaeth y mis hwn. Gwnaeth bron pob clwb droi ei nos Fercher gymdeithasol yn 'noson binc' gan sicrhau eu bod i gyd yn gwneud eu rhan i godi ymwybyddiaeth.

I ddechrau'r dathliadau, cynhaliodd ein Swyddog Gweithredol Chwaraeon 'Ddiwrnod Menywod' cyffrous pan ddaeth aelodau benywaidd ein clybiau ynghyd am ddiwrnod llawn cystadlu cyfeillgar. Roedd y prynhawn yn llawn digwyddiadau hwyl wrth i athletwyr gystadlu mewn amrywiaeth o chwaraeon i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r achos pwysig hwn. Roedd yn brynhawn i'w gofio, diolch i'r holl gyfranogwyr!

Ac roedd mwy o gyffro i ddod. Wynebodd tîm rygbi cyntaf y dynion Brifysgol Caerwysg mewn gêm gyffrous sy'n siŵr o fod yn destun trafod am flynyddoedd i ddod. Y gwir uchafbwynt, fodd bynnag, oedd y môr o binc yn yr eisteddleoedd gyda chefnogwyr yn troi’r lle’n binc i ddangos eu cefnogaeth. Gwnaeth y dorf, i gyd yn gwisgo'n binc, godi ymwybyddiaeth mewn steil, a bu Undeb y Myfyrwyr yn gweithio'n galed i godi arian ar gyfer ymchwil i ganser y fron. Am dorf gefnogol!

Yn y cyfamser, gwnaeth tîm nofio Abertawe fabwysiadu'r thema binc hefyd, gyda nofwyr yn gwisgo capiau a gwisgoedd nofio pinc newydd yn ystod eu sesiynau hyfforddi. Arweiniodd y prif hyfforddwr, Hayley Baker, drwy esiampl, a hithau’n falch o wisgo'n binc ei hun. Roedd y pwll Olympaidd 50m o hyd yn fôr o binc wrth i'r nofwyr ddangos eu cefnogaeth i’r achos.

Daeth y mis i ben gyda noson wych o Bingo Lingo ar gyfer Canser y Fron, a drefnwyd gan Swansea Sirens a thîm rygbi'r dynion. Gwnaeth y digwyddiad, gyda gwisgoedd ffansi difyr a gemau bingo cyffrous, godi swm trawiadol o £700. Roedd hi'n ffordd berffaith o orffen y mis, â digon o egni a hwyl.

O dwrnameintiau elusennol a drefnwyd gan ein tîm pêl-rwyd i glybiau'n codi arian yn eu gemau, mae ein clybiau chwaraeon wedi dangos unwaith eto nad cystadlu yw eu hunig amcan - mae gwneud effaith gadarnhaol yn flaenoriaeth hefyd.

Ar drothwy mis Tachwedd, rydym yn edrych ymlaen at weld pa ddigwyddiadau cyffrous bydd ein myfyrwyr yn eu trefnu ar gyfer Tashwedd. Rhowch gipolwg ar ein Hatgofion Tashwedd o’r llynedd a chadwch lygad am yr hyn sydd nesaf!

Rhannu'r stori