Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n byd chwaraeon!

Helô, a chroeso i Chwaraeon Abertawe! Isod rydyn ni'n mynd i amlinellu popeth mae angen i chi ei wybod am chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe cyn i chi ymuno â ni y mis hwn!

Yn gyntaf, llongyfarchiadau mawr ar gael eich derbyn yma! Nawr mae'n bryd dechrau'r bennod nesaf ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a dweud popeth wrthych am Chwaraeon Abertawe.

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni'n sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i bob unigolyn gymryd rhan mewn gweithgaredd. P'un a ydych chi'n ddechreuwr llwyr a heb erioed roi cynnig ar weithgaredd neu gamp o'r blaen, neu os ydych chi'n athletwr sy'n perfformio'n dda sy'n ceisio cydbwyso ei astudiaethau a'i hyfforddiant chwaraeon, mae gennym rywbeth i chi.

Bod yn ACTIF

Mae ein rhaglen Get ACTIVE yn gyfle perffaith i chi roi cynnig ar rywbeth newydd. Mae'n ymwneud â dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a chael llawer o hwyl! Mae'r sesiynau Bod yn ACTIF yn cael eu cynnal bob dydd felly mae digon o amser i chi alw heibio ac ymuno â nhw drwy gydol yr wythnos. Mae Bod yn ACTIF wedi'i deilwra i chi, felly rydyn ni'n siŵr o gynnal cynifer o wahanol weithgareddau â phosibl! Mae rhai o'r rhain yn cynnwys:

  • Badminton
  • Syrffio
  • Padl-fyrddio sefyll i fyny
  • Pêl foli:
  • Bowldro
  • Teithiau Cerdded (o amgylch Penrhyn Gŵyr a de Cymru)
  • Caiacio
  • Saethyddiaeth

Dyma ddetholiad o'r amrywiaeth o weithgareddau rydyn ni'n eu cynnig. Mae'r sesiynau Bod yn ACTIF yn cael eu harwain gan fyfyrwyr sydd yma i helpu a sicrhau eich bod yn cael amser gwych yn y sesiynau! Mae cofrestru'n rhad ac am ddim, felly peidiwch â cholli cyfleoedd anhygoel! Ceir rhagor o wybodaeth am Bod yn ACTIF a sut i gofrestru yma.

Cynghreiriau Cymdeithasol

Os ydych chi'n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy cystadleuol, mae ein cynghreiriau cymdeithasol yn berffaith i chi! Mae ein cynghreiriau cymdeithasol yn ymwneud â chael hwyl mewn amgylchedd hamddenol, gydag ychydig mwy o gystadleuaeth yn y gêm. O bêl-droed 5-bob-ochr i bêl-rwyd a phêl-fasged, mae gennym amrywiaeth o wahanol chwaraeon cymdeithasol y gallwch chi gymryd rhan ynddynt bob wythnos. I ddysgu rhagor am y chwaraeon gwahanol y gallwch chi eu chwarae'n gymdeithasol, cliciwch yma.

Clybiau Chwaraeon

Mae gennym dros 56 o glybiau chwaraeon gwahanol eleni, gyda gormod i'w henwi! Bob dydd Mercher mae llawer o'n clybiau'n cystadlu yng nghynghreiriau BUCS, lle byddan nhw'n cystadlu yn erbyn prifysgolion eraill ledled y DU i wella eu safle ar fwrdd arweinwyr BUCS. Chwaraeon sy'n bwysig bob dydd Mercher. Mae ein timau'n cystadlu yn erbyn prifysgolion eraill o amgylch Parc Chwaraeon Bae Abertawe a Champws y Bae.

Efallai y bydd gan lawer o'n clybiau nifer o dimau gwahanol o fewn eu clybiau, gan ddibynnu ar lefel eich profiad, a gallwch ymaelodi â mwy nag un clwb chwaraeon os dymunwch. Cofiwch, gallwch gwrdd â'n holl glybiau chwaraeon yn Ffair y Glas ar 25 a 26 Medi i weld a oes rhywbeth i chi! Yma, byddwn hefyd yn dweud popeth wrthych am y treialon a'r sesiynau rhagflas y gallwch gymryd rhan ynddynt.

Chwaraeon Perfformiad

Yn y brifysgol, mae gennym bum chwaraeon perfformiad: Rygbi i Ddynion, Nofio, Hoci i Fenywod, Tenis Bwrdd a Phêl-droed i Ddynion. Mae'r rhaglenni hyn yn cael eu darparu gan weithwyr proffesiynol cymwys iawn sy'n sicrhau bod athletwyr yn cael yr hyfforddiant o'r ansawdd uchaf wrth gyflawni eu nodau academaidd. Mae clybiau chwaraeon perfformio hefyd yn cystadlu yng nghynghreiriau BUCS, gan ein bod ni i gyd yn ceisio gwella ein safle ar fwrdd BUCS gyda'n gilydd!

Ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, mae gennym gyfleusterau o ansawdd uchel i ddarparu ar gyfer ein chwaraeon uchel eu perfformiad, gan gynnwys:

  • 2 gae hoci seiliedig ar ddŵr
  • Cae 3g
  • Pwll nofio Olympaidd 50m
  • Trac athletau 400m

Ar ddydd Mercher, mae'r Fyddin Werdd a Gwyn (GWA) yn dod ynghyd ac yn mynd i stadiwm San Helen i gefnogi tîm rygbi cyntaf y dynion wrth iddyn nhw chwarae yn Uwch-gynghrair Rygbi Bucs, gan gystadlu yn erbyn y timau rygbi prifysgolion gorau yn y DU.

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein chwaraeon perfformiad, cliciwch yma.

Ysgoloriaethau

Ar gyfer ein hathletwyr uchel eu perfformiad sydd am lwyddo mewn gyrfa chwaraeon ac yn eu hastudiaethau, rydyn ni'n cynnig ysgoloriaethau chwaraeon. Fel prifysgol sydd wedi'i hachredu gan TASS, mae Abertawe'n cynnig cymorth i'n hysgolheigion ar hyd eu taith chwaraeon. Mae gennym ddau swyddog penodol i ddarparu cymorth i athletwyr, sy'n sicrhau ein bod yn gofalu am yr holl ysgolheigion a'u bod yn rheoli eu hymrwymiadau o ddydd i ddydd.

Os hoffech gael gwybod mwy am y rhaglen ysgoloriaeth, ceir rhagor o wybodaeth yma.

Digwyddiadau

Mae gennym amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn y gallwch gymryd rhan ynddynt. Varsity Cymru yw'r ail varsity mwyaf yn y DU, lle mae pob clwb chwaraeon yn cystadlu yn erbyn ein hen elynion yn ne Cymru, Prifysgol Caerdydd, ac rydyn ni'n cystadlu i ennill y darian. Bob blwyddyn, mae Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn cymryd tro i gynnal y digwyddiad. Yn Abertawe, fe'i cynhelir ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe. P'un a ydych chi'n cymryd rhan fel cefnogwr, Varsity yw un o ddyddiau gorau eich profiad yn y brifysgol ac ni ddylech chi ei golli. Darllenwch am Varsity Cymru 2024.

I ddathlu cyflawniadau chwaraeon y flwyddyn, rydyn ni'n cynnal 'Noson Gwobrau Chwaraeon' lle mae pob clwb yn gwisgo'n smart ac yn cael noson a hanner ar ôl noson o ddathlu'r myfyrwyr!

Gobeithiwn eich bod wedi dysgu popeth mae angen i chi ei wybod am chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, ond os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni. Dilynwch ni yn y cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â ni.

Fe welwn ni chi'n fuan! Am ragor o wybodaeth am Ffair y Glas ar 25 a 26 Medi, cliciwch yma.

Rhannu'r stori