Mae Sadie’n mynd i Gwpan y Byd!

Mae Rheolwr Chwaraeon Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Sadie Mellalieu, yn cynrychioli Cymru unwaith eto ar lwyfan y byd ac yn mynd i gystadlu yng nghystadleuaeth Meistr Hoci'r Byd 2024 yn Cape Town, De Affrica!

Bydd Sadie'n mynd i Dde Affrica ar8 Hydref lle bydd hi'n cystadlu yn y tîm W035 (Menywod dros 35 oed), yn chwarae safle rhif 10, blaenwr. Sadie fydd capten y tîm, a bydd hi’n eu harwain drwy eu gemau drwy gydol y twrnamaint gyda'i sgyrsiau llawn ysbrydoliaeth a’i chyngor arbenigol!

Cynhelir y gystadleuaeth rhwng 12 a 21 Hydref yn Ne Affrica, yn Stadiwm Hartleyvale, Cape Town. Mae'r tîm wedi bod yn hyfforddi ym Mhrifysgol De Cymru a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, gan gynnal eu sesiwn hyfforddiant olaf ar gaeau hoci seiliedig ar ddŵr yma yn ein cyfleusterau chwaraeon ein hunain ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe.

Mae Sadie a'r tîm, sydd wedi bod yn gweithio'n hynod o galed i sicrhau eu bod yn perfformio ar eu gorau drwy gydol y twrnamaint hwn, yn edrych ymlaen at y profiad. Dywedodd:

"Rwy'n edrych ymlaen at fod yn gapten ar y tîm Cymraeg am y tro cyntaf. Rwy'n gobeithio atgynhyrchu rhai o lwyddiannau dwy flynedd yn ôl lle roeddem wedi ennill y fedal efydd yng Nghwpan y Byd yn Nottingham.

Mae'r tîm wedi bod yn hyfforddi'n galed wrth arwain at y daith hon ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at roi'r hyfforddiant ar waith wrth wynebu rhai o dimau gorau'r byd."

Nid hwn yw'r tro cyntaf i Sadie gynrychioli Cymru eleni. Yn ddiweddar roedd Sadie wedi cystadlu yng nghystadleuaeth y Pedair Cenedl yn Cork, yn Iwerddon trwy gydol mis Mehefin, lle'r oedd y tîm wedi wynebu timau Lloegr, Iwerddon a'r Alban i geisio ennill cwpan y Pedair Cenedl, lle daeth y tîm yn 3ydd. Mae'r disgwyliadau'n uchel i'r tîm yn dilyn eu medal 3ydd safle yng Nghwpan y Byd 2022, wrth iddynt ennill yn erbyn yr Iseldiroedd! Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y fuddugoliaeth wych hon yma.

Mae Sadie wedi bod yn rheoli Chwaraeon Myfyrwyr yma am bron i 12 mlynedd ac yn angerddol am bob maes Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, gan sicrhau bod gan yr holl fyfyrwyr sy'n athletwyr gyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae rhagor o wybodaeth am chwaraeon clwb yma.

Llongyfarchiadau ar gael dy ddewis ar gyfer y tîm Sadie, a dymunwn bob llwyddiant i ti allan yn Ne Affrica fel capten y tîm!

Rhannu'r stori