Aelod staff arall yn mynd i Baris gyda Thîm Prydain Fawr!

Wrth i un aelod staff ddychwelyd o'r Gemau Olympaidd ym Mharis, mae aelod staff arall yn mynd i'r Gemau Paralympaidd!

Mae Verity Cook, un o'n Swyddogion Cymorth Athletwyr ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cael ei dewis fel Rheolwr Tîm ar gyfer carfan nofio Tîm Prydain Fawr yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024!

Cododd y cyfle anhygoel hwn ar ôl  i Verity gael cais i drefnu digwyddiad ar gyfer tîm Paralympaidd Tîm Prydain Fawr yn rhinwedd ei rôl fel Rheolwr Digwyddiadau Nofio Cymru, cyn i brif hyfforddwr Tîm Prydain Fawr gynnig cyfle i Verity ymuno â'r tîm fel Rheolwr Tîm. Dair blynedd yn ddiweddarach, mae hi ar ei ffordd i Gemau Paralympaidd Paris gyda Thîm Prydain Fawr!

Bydd Verity ar lwyfan y byd lle bydd hi'n cynorthwyo'r athletwyr mewn llawer o ffyrdd. Mae ei rôl fel Rheolwr Tîm yn amrywiol, o sicrhau bod yr athletwyr yn cyrraedd y gystadleuaeth o'r pentref yn brydlon, i gymorth personol, er enghraifft, tapio'r athletwyr ag amhariad ar eu golwg i sicrhau nad ydynt yn taro eu pennau ar y wal. Mae ystod o ddosbarthiadau athletwyr y bydd Verity yn gweithio gyda nhw pan fydd hi ym Mharis, o amhariadau ar y golwg, amhariadau deallusol ac amhariadau corfforol.

Disgrifiodd Verity ei rôl yn y Gemau Paralympaidd fel "bod yn fam broffesiynol i'r athletwyr pan fyddant i ffwrdd yn teithio" ac rydym yn sicr y bydd Verity yn cyflawni hyn i'r safon uchaf!

Rydym yn hynod falch o Verity a'i llwyddiant eleni ac ni allwn aros i'w gweld yn disgleirio ar lwyfan y byd wrth iddi gefnogi athletwyr yn eu cystadlaethau.

Cliciwch yma i wylio cyfweliad Verity wrth iddi ddweud mwy wrthym am sut cododd y cyfle anhygoel hwn.

Mae gennym amrywiaeth o athletwyr yn cynrychioli Tîm Prydain Fawr yn y Gemau Paralympaidd eleni, gan gynnwys un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ac enillydd medal bum gwaith yn y Gemau Paralympaidd, David Smith OBE, a fydd yn cystadlu yn y gystadleuaeth Boccia. Pob lwc David, dymunwn bob llwyddiant i ti!

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen ysgoloriaeth y mae Verity'n ei chefnogi, ewch i'r dudalen ysgoloriaethau.

Rhannu'r stori