Yr ysgolhaig cicfocsio, Charley Davies, yn ennill y fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd WKU

🎉Mae Charley Davies o Brifysgol Abertawe wedi ennill eto! A hithau'n cystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd WKU yn Rhodes, Gwlad Groeg, mae'r seren gicfocsio anhygoel hon wedi dychwelyd adref gyda llu o fedalau:dwy fedal aur, un arian ac un efydd. Mae Charley, sy'n fyfyriwr Addysg yn ei hail flwyddyn, wedi bod yn cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd ers 2022 - ac mae'n mynd o nerth i nerth!

Dechreuodd taith lwyddiannus Charley ym Mhencampwriaethau Byd WKU yng Nghaerdydd yn 2022, lle enillodd un fedal arian a dwy fedal efydd. Y flwyddyn ganlynol, aeth gam ymhellach yng Nghanada, gan ennill medal arian a thair medal efydd. Eleni yng Ngwlad Groeg, roedd ymroddiad, sgiliau a chadernid Charley wedi talu ar ei ganfed drwy gyrraedd brig y podiwm ddwywaith, gan ychwanegu at ei chasgliad cynyddol o fedalau!

Gan fyfyrio ar ei chyflawniadau, mynegodd Charley ei diolchgarwch am y cymorth sydd wedi'i helpu i gyflawni ei llwyddiant. "Ni fyddwn wedi cyflawni fy nod heb gymorth anhygoel gan bawb, gan gynnwys fy hyfforddwyr, fy nheulu a thîm yr ysgoloriaeth.Rwy'n hynod ddiolchgar am y cymorth drwy gydol fy nhaith", ychwanegodd.

Mae cyflawniadau Charley'n hollol anhygoel. Gan gystadlu ar draws ystod o gategorïau - o'r hynod gystadleuol - 55kg Karate Kumite a Pointfighting i'r her - 60kg Karate Kumite - dangosodd Charley ei gallu amryddawn a'i chryfder.

Ac os oeddech chi'n meddwl bod ei doniau'n dod i ben yn y ring, gallwch chi feddwl eto! Pan nad yw hi'n hyfforddi neu'n astudio, mae Charley'n dwlu perfformio ar y llwyfan. Y llynedd, bu'n cyfareddu cynulleidfaoedd fel Elle Woods yn Legally Blonde a bellach mae'n ymarfer ar gyfer ei rôl yn Shrek the Musical.

Ni allem fod yn fwy balch o gyflawniadau anhygoel Charley ar y mat ymladd a'r tu hwnt iddo. Mae'n ymgorffori gwir ysbryd Prifysgol Abertawe ac rydym yn gyffrous i weld beth fydd y cyflawniad nesaf.

Gallwch weld llwyddiannau blaenorol Charley yma chliciwch yma i gwrdd â mwy o ysgolheigion rhagorol eleni!

Rhannu'r stori