Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Dr Aaron Brown, a gwblhaodd ei radd meistr a'i PhD yn Ysgol y Gyfraith a sydd bellach yn Arbenigwr Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer Unicef UK.
Daeth Aaron i Brifysgol Abertawe gyntaf yn 2009 i astudio ar y rhaglen MA mewn Cyfiawnder Troseddol Cymhwysol a Throseddeg. Wedyn treuliodd gyfnod yn gweithio yn Senedd y DU yn San Steffan, Llundain, cyn dychwelyd i Abertawe ar ddiwedd 2014 i ymgymryd â PhD mewn Troseddeg (Cyfiawnder Ieuenctid),
Ar gyfer ei Phd, a gwblhawyd dan oruchwyliaeth Dr Anthony Charles a Dr Jon Burnett, archwiliodd Aaron Fodel Bureau Cymru - model ailgyfeirio ieuenctid a oedd yn seiliedig ar hawliau - â'r nod o ailgyfeirio plant 'i ffwrdd' o'r system cyfiawnder ieuenctid ffurfiol (a'r labelu a'r stigmateiddio sy’n gysylltiedig â hi) a, lle bo angen, eu cyfeirio at ymyriadau priodol â'r nod o gynnig cymorth a hyrwyddo canlyniadau er lles cymdeithas.
Yn arwyddocaol, wrth astudio am ei PhD a chan adeiladu ar rwydweithiau'r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant ym Mhrifysgol Abertawe, cafodd Aaron a chydweithwyr o'r Adran Droseddeg, gyfle i ymweld â Phrifysgol Houston (Tecsas) a Phrifysgol Emory (Georgia) i gwrdd ag academyddion blaenllaw ym meysydd hawliau plant a chyfiawnder ieuenctid.
Ar ôl iddo gwblhau ei PhD, ymunodd Aaron ag Unicef UK fel Arbenigwr Cyfiawnder Ieuenctid, lle mae wedi defnyddio ei wybodaeth academaidd dros y flwyddyn ddiwethaf i helpu i arwain a llunio adroddiad ar gyfiawnder ieuenctid sy'n archwilio cyfiawnder ieuenctid ym mhedwar gwlad y DU a'u cyd-destunau polisi datganoledig a'r rhai nad ydynt wedi'u datganoli o safbwynt hawliau plant.
Er bod llawer o waith cadarnhaol yn cael ei wneud sy’n ceisio defnyddio, deall a chymhwyso safonau rhyngwladol hawliau plant, mae canfyddiadau'r adroddiad yn datgelu meysydd sylweddol o weithgarwch, o ran polisi ac ymarfer, nad ydynt yn bodloni'r safon ddisgwyliedig ar gyfer hawliau plant rhyngwladol.
Mae'r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant ac Unicef wedi cydweithredu ers amser hir i rhoi hawliau plant ar waith yng Nghymru a monitro hawliau dynol rhyngwladol, a chan adlewyrchu hyn, darparwyd rhagair yr adroddiad yn garedig gan yr Athro Jane Williams o'r Arsyllfa.
Mae’r amser a dreuliwyd gan Aaron yn astudio am ei PhD yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe ac yn cydweithio ag academyddion o'r Arsyllfa wedi bod yn brofiad amhrisiadwy i feithrin yr offer a'r arbenigedd roedd eu hangen arno yn ei rôl yn Unicef UK ac a fydd o gymorth iddo drwy gydol ei yrfa.
Wrth siarad am ei amser yn Ysgol y Gyfraith ac am gyhoeddi'r adroddiad newydd, meddai Aaron:
"Nid yn unig oedd fy amser yn astudio tuag at radd PhD ym Mhrifysgol Abertawe yn brofiad gwych, gwnaeth hefyd roi cyfleoedd i mi ddatblygu rhwydweithiau gydag arbenigwyr ym maes cyfiawnder ieuenctid a phlant yn y DU ac ym mhedwar ban byd. Cefais fy arfogi â Sylfaen wybodaeth gadarn am faterion cyfiawnder ieuenctid a hawliau plant sydd wedi bod yn hynod werthfawr. Tynnais ar y profiadau a’r set o sgiliau hyn bob dydd yn fy swydd a dw i’n hynod ddiolchgar i Anthony, Jane ac academyddion eraill a oedd bob amser wrth law i gynnig cefnogaeth ac anogaeth drwy gydol fy amser yn Ysgol y Gyfraith."
Wrth siarad am amser Aaron yn yr Ysgol ac am oruchwylio ei PhD, meddai Dr Anthony Charles:
"Cynhaliodd Aaron ymchwil effeithiol ym Mhrifysgol Abertawe sy’n gwneud cyfraniadau pwysig i’n dealltwriaeth o wyro ac ymyraethau priodol, yn enwedig mewn cyd-destun Cymreig.
Mae canfyddiadau ymchwil Aaron yn ein herio ni i feddwl am y ffyrdd y caiff hawliau plant eu deall a’u cymhwyso ym maes cyfiawnder ieuenctid. Roedd gweithio gydag Aaron yn ystod ei gwrs gradd PhD yn bleser ac roeddwn i’n falch iawn ei fod wedi cadw mewn cysylltiad ar ôl iddo dderbyn ei rôl fel Arbenigwr Cyfiawnder Ieuenctid yn Unicef a bod gan y canfyddiadau y potensial i hysbysu polisi cyfiawnder ieuenctid mewn ffordd gadarnhaol ar draws y Deyrnas Unedig.”
Wrth siarad am y berthynas barhaus rhwng yr Arsyllfa ac Unicef ac am ddarparu rhagair yr adroddiad, meddai'r Athro Jane Williams:
"Mae’r Arsyllfa ac UNICEF wedi cydweithredu ers nifer o flynyddoedd, gan gynnwys ar faterion sy’n ymwneud â monitro hawliau plant a diwygio’r gyfraith yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill er mwyn effeithio’n well ar hawliau dynol plant. Roedd derbyn gwahoddiad i ysgrifennu’r rhagair ar gyfer yr adroddiad pwysig hwn yn fraint, a drafftiwyd yr adroddiad hwn gan gyn-fyfyrwyr Abertawe sydd wedi gwneud cyfraniadau mawr i’n tîm o ymchwilwyr ac ymgyrchwyr dros hawliau plant. Mae gweld Aaron yn cymhwyso’r wybodaeth a’r gwerthoedd o’r byd ehangach rydyn ni’n eu rhannu yn wych."