Mae Mari Watkins, sy’n astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cael ei henwi’n enillydd yr ail wobr mewn cystadleuaeth i ddod o hyd i ddarpar gyfreithiwr mwyaf disglair y wlad.Mae Mari Watkins, sy’n astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cael ei henwi’n enillydd yr ail wobr mewn cystadleuaeth i ddod o hyd i ddarpar gyfreithiwr mwyaf disglair y wlad.
Yn ei chais am Wobr Future Legal Mind 2020 National Accident, siaradodd Mari Watkins am ei hangerdd dros gyfraith tir er mwyn gwella mynediad i’r tir i’r rhai sy’n archwilio cefn gwlad.
Fel enillydd ail wobr y gystadleuaeth Future Legal Mind, bydd Mari sy’n 20, oed yn derbyn gwobr gwerth £500 a’r cyfle i gael ei mentora gan gyfreithwyr profiadol.
Doeddwn i ddim yn gallu credu pan glywais i fy mod i wedi ennill yr ail wobr, roedd yn syndod hyfryd. Mae ‘na lawer o lyfrau hoffwn i eu prynu am fy nghwrs, felly bydd y wobr arian yn helpu gyda hynny.
“Mae llawer o bobl wedi dod yn ymwybodol o fynediad i dir yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, wrth iddyn nhw fynd am dro bob dydd ar hyd llwybrau na fydden nhw wedi’u harchwilio o’r blaen mwy na thebyg, felly mae hynny wedi helpu i godi proffil cyfraith tir.
“Mae’n fater dwi’n teimlo’n gryf amdano a dwi’n bwriadu ysgrifennu fy nhraethawd estynedig amdano.”
Mae Future Legal Minds yn ei chweched flwyddyn, ac mae enillwyr blaenorol wedi cymhwyso i fod yn fargyfreithwyr ac yn gyfreithwyr.
Amcan Mari yw cwblhau cwrs y Bar ar ôl ei gradd israddedig a sicrhau lle mewn siambrau yn Abertawe i wneud ei thymor prawf.
Meddai Jonathan White, Cyfarwyddwr Cyfreithiol Llinell Gymorth National Accident: “Roedd thema cais Mari, mynediad i dir, yn amserol iawn ac yn rhywbeth roeddwn i wedi sylwi arno wrth i mi gerdded mwy yn yr awyr agored yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.
“Roedd panel y beirniaid o’r farn bod Mari yn eiriolwr angerddol dros y pwnc a’i bod wedi cyflwyno ei hachos yn glir ac yn gryno, a chreodd hynny argraff dda iawn arnom ni.