Eleni, mae Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnachu Rhyngwladol Prifysgol Abertawe'n dathlu ugain mlynedd ers ei sefydlu.
Ar ôl dechrau yn 2000 fel tîm bach ond uchelgeisiol gan gynnwys tri pherson dan arweiniad ei sefydlwr yr Athro Rhidian D Thomas, mae wedi datblygu bellach i fod yn ganolfan ymchwil arweiniol yn Ewrop sy'n arbenigo mewn cyfraith fasnachol a morwrol. Mae'r 18 academydd ac ymarferydd sy'n aelodau ohono'n ymroddedig i addysg, hyfforddiant, meithrin perthnasoedd rhwng academyddion ac ymarferwyr yn fyd-eang, a chyflenwi ymchwil arloesol.
Rhan fawr o'r dathlu oedd darlith 2020 y Sefydliad a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr. Ar gyfer y ddarlith hon, roedd y Sefydliad yn falch iawn o groesawu Syr Peter Gross, a wnaeth ymddeol yn ddiweddar o'r Llys Apêl a chyn hynny bu'n flaenor y Bar masnachol. Bellach mae'n weithgar fel cyflafareddwr yn ei hen siambrau sef Twenty Essex, ac mae newydd ei benodi i arwain comisiwn y llywodraeth ynghylch gweithredu'r Ddeddf Hawliau Dynol.
Pwnc y ddarlith, pwnc addas a hynod gyfredol, oedd The Judiciary Today – The Least Dangerous Branch; y canlyniad oedd dadansoddiad medrus, eang a hynod ddeallus o'r cydbwysedd bregus rhwng cangen y ddeddfwrfa, y gangen weithredol a'r farnwriaeth. Cynhaliwyd y digwyddiad o bell oherwydd yr haint parhaus, a bu'n gyfraniad mawr at y drafodaeth barhaus ynghylch rôl barnwriaeth Lloegr, nid yn unig yn ffurflywodraeth y DU ei hun (cyn Brexit ac ar ôl hynny), ond ym myd y gyfraith y tu allan i'r DU hefyd.
Rydym yn ddiolchgar am yr holl gyfeillion a chydweithwyr a ymunodd â ni mewn amgylchedd rhithwir ar 7 Rhagfyr er mwyn dathlu pen-blwydd ein sefydlu. Rydym yn hyderus y bydd dau ddegawd nesaf IISTL yn fwy llewyrchus byth na'i ddau ddegawd cyntaf!
Mae'r rhai a gollodd y ddarlith yn gallu lawrlwytho copi o'r trawsgrifiad yma.