Mae Dr Ifeanyi-Ajufo, Uwch-ddarlithydd ar raglenni LLM Abertawe, wedi cael ei chydnabod yn un o'r 50 unigolyn sy'n arwain gwaith arloesi cyfreithiol yn Affrica, ac mae wedi derbyn gwobr gan Africa Law Tech.
Mae Dr Ifeanyi-Ajufo yn aelod newydd o Ysgol y Gyfraith yn Abertawe. Ar ôl cwblhau gradd Baglor yn y Gyfraith (LLB) ym Mhrifysgol Abuja yn Nigeria yn 2005, aeth i Ysgol y Gyfraith Nigeria a graddio yn 2006 cyn cael ei galw i Far Nigeria.
Enillodd radd LLM mewn Cyfraith Technoleg Gwybodaeth Ryngwladol (gyda Rhagoriaeth) o Brifysgol Robert Gordon yn y Deyrnas Unedig yn 2009, a hefyd enillodd Radd Doethur yn y Gyfraith (LLD) mewn Cyfraith Ryngwladol o Brifysgol Johannesburg, De Affrica yn 2018. Hefyd mae ganddi Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Ymarfer Academaidd Rhyngwladol o Brifysgol Caerhirfryn yn y Deyrnas Unedig ac yn ddiweddar cwblhaodd radd Meistr mewn Astudiaethau Affricanaidd ym Mhrifysgol Ghana.
Fe'i penodwyd yn ddiweddar yn Is-gadeirydd Grŵp Arbenigwyr Seiberddiogelwch yr Undeb Affricanaidd (AUCSEG) o dan nawdd Comisiwn yr Undeb Affricanaidd (AUC).
Mae Dr Ifeanyi-Ajufo yn addysgu ar sawl rhaglen Meistr a addysgir yn Abertawe ac yn ddiweddar mae wedi dylunio modiwl LLM newydd, sef 'Eiddo Deallusol, y Gyfraith a Thechnoleg', sydd ar gael fel rhan o'r: