Trefnodd y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) ei chweched gweminar ar gyfer 2021 ar 9 Mehefin gyda 4 siaradwr arbenigol yn cymryd rhan.
- Ystyriodd Dr Regina Assariotis (Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Fasnach a Datblygu) effaith y pandemig byd-eang ar gontractau gwerthu rhyngwladol
- Rhoddodd Philippa Hopkins CF (Siambrau Essex Court) ddadansoddiad diddorol tebyg ar gontractau siarteri llongau
- Yn nhrafodaeth yr Athro Baughen (IISTL), gwnaeth ystyried sut yr effeithiwyd ar gontractau bil llwytho oherwydd y pandemig.
- Yn olaf ond nid lleiaf, trafododd Dr Amaxilati (IISTL) sefyllfa gyfreithiol ac ymarferol morwyr yn ystod y pandemig.
Roedd yr IISTL yn hynod falch bod y digwyddiad wedi denu cyfranogwyr o'r DU ond hefyd o rannau gwahanol o Ewrop, Asia ac America. Ysgogodd eu cwestiynau i'r panel drafodaeth ddiddorol iawn.