Mae Clinig y Gyfraith Abertawe wedi cyhoeddi lansiad clinig newydd yn cynnig cyngor Anafiadau Personol, a ddarperir mewn partneriaeth â chwmni o Lundain, Hodge Jones & Allen.
Mae Hodge Jones ac Allen yn gwmni arobryn sydd wedi bod yn helpu pobl i unioni camweddau, ymladd anghyfiawnder a delio ag amrywiaeth o faterion cyfreithiol personol ers dros 45 mlynedd. Mae eu cyfreithwyr arbenigol wedi bod wrth galon nifer o achosion pwysig y DU, gan ddiogelu hawliau a bywydau pobl yn y broses.
Bydd y Clinig Anafiadau Personol yn cynnig apwyntiadau cyngor anafiadau personol cyfrinachol 30 munud am ddim i aelodau'r cyhoedd gydag aelod o dîm Anafiadau Personol Hodge Jones & Allen. Cefnogir hyn gan gynghorwyr myfyrwyr Clinig y Gyfraith Abertawe, a fydd yn cael cyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd a fydd yn hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd cyfreithiol yn y dyfodol.
Bydd y Clinig yn gallu helpu aelodau o’r cyhoedd gyda:
- Damweiniau Traffig Ffyrdd gan gynnwys honiadau yn ymwneud â cherddwyr, beicwyr, beicwyr modur, a dulliau eraill o deithio
- Damweiniau yn y Gwaith
- Damweiniau mewn Mannau Cyhoeddus
- Damwain ac Anaf Angheuol
- Anafiadau a achosir gan gynhyrchion diffygiol
- Anafiadau Difrifol a Chymhleth megis anafiadau pen, trychiadau, anafiadau llinyn asgwrn y cefn ac anafiadau orthopedig a seiciatrig difrifol
- Hawliadau Llosgiadau, Sgaldio a Dychryn
- Anaf Deintyddol
- Anaf i'r Llygaid
- Anhwylder Straen Wedi Trawma
Wrth siarad ar y Clinig newydd, dywedodd Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe, yr Athro Richard Owen: "Rydym yn gyffrous iawn gan y cydweithrediad newydd hwn gyda Hodge Jones & Allen. Mae hawliadau anafiadau personol fel arfer y tu allan sgop cymorth cyfreithiol, felly bydd hyn yn creu llwybr at gyfiawnder i gleientiaid sy'n aml ag anafiadau sy'n newid bywyd".
Bydd y Clinig newydd hwn yn cael ei gynnig o bell, sy'n golygu y bydd apwyntiadau'n cael eu cynnal ar-lein dros Zoom neu Teams. Mae rhagor o wybodaeth am drefnu apwyntiad ar gael ar wefan Clinig y Gyfraith Abertawe.
Hodge Jones ac Allen
Mae gan Hodge Jones & Allen arbenigedd ar draws: Rhyddid Sifil a Hawliau Dynol, Amddiffyn Troseddol, Datrys Anghydfod, Cyfraith Teulu, Troseddau Ariannol a Rheoleiddio, Anghydfodau Tai ac Eiddo, Esgeulustod Meddygol, Galluedd Meddyliol a Dirprwyaeth, Anaf Personol, Asbestos a Mesothelioma, Ewyllysiau & Phrofiant, Cyfiawnder Amgylcheddol. hja.net @hodgejonesallen