Mae'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) yn falch o gyhoeddi bod Stobbs IP, sef cwmni cyfraith byd-eang sydd â swyddfeydd yn Llundain, yng Nghaergrawnt, ym Munich, yn Nulyn ac yn Eindhoven, wedi cyflwyno gwobr newydd ar gyfer myfyrwyr ar raglen LLM mewn Eiddo Deallusol ac Arloesi.
Cyflwynir Gwobr Stobbs i annog myfyrwyr LLM i ragori ym maes Cyfraith Eiddo Deallusol. Mae gan y wobr werth ariannol ac mae’n cynnig cyfle am interniaeth. Caiff ei dyfarnu i'r myfyriwr ar y rhaglen LLM mewn Eiddo Deallusol ac Arloesi sydd â'r radd uchaf yn y modiwlau Eiddo Deallusol ym Mhrifysgol Abertawe.
Dyfernir Gwobr Stobbs Agoriadol i Aderinsola Adeliyi. Ymunodd Aderinsola â'r rhaglen Eiddo Deallusol yn Abertawe ar ôl iddi gwblhau profiad gwaith ym maes Trwyddedu Eiddo Deallusol mewn cwmni cyfreithiol yn Lagos, Nigeria. Mae hi hefyd yn artist gweithgar ac roedd hi'n artist preswyl yn Oriel Gelf Gemini yn 2023. Cyflwynwyd y Wobr i Aderinsola gan Mr Chris Murray a Dr Ogulcan Ekiz yn Swyddfa Stobbs yn Llundain.