Mae gan y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) gysylltiadau agos â nifer o gwmnïau cyfreithiol rhyngwladol. Mae HFW, cwmni cyfraith fasnachol rhyngwladol blaenllaw, yn un o'r cwmnïau hynny ac yn bartner pwysig iawn.

Bob blwyddyn, mae nifer o gyfreithwyr o'r cwmni yn cyfrannu at gyflwyno rhaglenni LLM Abertawe ac, ers dros hanner degawd, mae'r cwmni wedi dyfarnu tair gwobr wahanol i fyfyrwyr, er mwyn adlewyrchu amrywiaeth eu gwaith morgludiant a masnachol.

Yr enillwyr teilwng eleni oedd tri o fyfyrwyr mwyaf disglair Abertawe, a gwnaeth pob un sgorio'r marc uchaf yn eu modiwlau perthnasol:

  • Mr Arjun Mital enillodd wobr HFW mewn Cyfraith Olew a Nwy
  • Mr Ehsan Sarkhosh enillodd wobr HFW mewn Cyfraith Cludo Nwyddau, a
  • Mr Christian Schamer enillodd wobr HFW mewn Cyfraith y Morlys.

Cyflwynwyd y gwobrau yn Llundain gan Richard Neylon, sy'n un o raddedigion Abertawe ac yn bartner yn y cwmni. Aeth yr Athro George Leloudas a Dr Tabetha Kurtz-Shefford gydag enillwyr y gwobrau i'r seremoni wobrwyo.

Ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Soyer:

“Rydyn ni'n estyn llongyfarchiadau gwresog i'n myfyrwyr ac yn diolch i HFW am eu cefnogaeth werthfawr iawn a pharhaus. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych drwy fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr morwrol, mogludiant ac ynni ac rydyn ni wrth ein boddau bod ein cydweithrediad cynhyrchiol wedi parhau am bron degawd. Fel rydyn i'n dweud yn aml yn Abertawe, ymlaen â ni!"

Rhannu'r stori