GENCON yw siarter llogi llongau fwyaf adnabyddus BIMCO ar gyfer cludo cargo sych a chyffredinol.
Lansiwyd fersiwn newydd o'r siarter logi llongau hon yn 2022 a bu un o uwch-aelodau'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL), yr Athro Richard Williams, yn aelod o'r is-bwyllgor a oedd yn gyfrifol am ddrafftio'r fersiwn newydd o'r siarter nodedig hon.
Fel rhan o Wythnos Morgludiant Ryngwladol Llundain (LISW), ymunodd y Sefydliad â BIMCO i drefnu seminar yn swyddfeydd newydd HFW, gan graffu ar agweddau allweddol ar y siarter hon o safbwynt cyfreithiol.
Roedd yr Athro Barış Soyer (Cyfarwyddwr IISTL) yn un o gymedrolwyr y digwyddiad, ar y cyd â Stinne Taiger Ivo (Cyfarwyddwr Cytundebau a Chymorth yn BIMCO), ac ymhlith aelodau eraill o'r panel oedd:
- Syr Bernard Eder (Cymrodeddwr a Chyfryngwr Rhyngwladol),
- Simon Rainey CB (Quadrant Chambers ac Athro Er Anrhydedd yn IISTL),
- Magne Andreson (Nordic Defence Club),
- Brian Perrott (Partner, HFW),
- John Weale (Cyn-is-lywydd Fednav Ltd), a
- Helena Biggs (Uwch-gyfreithiwr Gard).
Denodd y digwyddiad lu o bobl o'r gymuned forwrol yn Llundain a gwerthwyd pob tocyn. Diolch i sylwadau a chwestiynau gwych gan y cyfranogwyr, roedd y digwyddiad yn un o uchafbwyntiau'r wythnos.
Ar ôl y digwyddiad, mwynhaodd y cyfranogwyr ddiodydd a chanapes ar falconi swyddfeydd newydd HFW yn Bishopsgate, gan gynnig cyfleoedd rhwydweithio ardderchog.
Agwedd neilltuol arall ar y digwyddiad oedd cyfranogiad nifer mawr o raddedigion LLM Abertawe sydd bellach yn gweithio yn y sector morgludiant yn Llundain. Roedd aelodau IISTL a oedd yn bresennol yn falch iawn o allu gweld y graddedigion hyn wrth eu gwaith mewn swyddi o bwys yn Llundain.