Roedd y Labordy Arloesi Cyfreithiol yn fenter £4.95m a gynhaliwyd yn Ysgol y Gyfraith a anogodd arloesi ym maes technoleg gyfreithiol, mynediad at gyfiawnder, a gwrthderfysgaeth, ac mae adroddiad terfynol ar gael bellach sy'n gwerthuso'r prosiect yn llawn.
Cafodd y Labordy ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a bu ar waith o fis Awst 2019 tan fis Mehefin 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, cyfunodd y Labordy gyfleusterau a adeiladwyd at y diben ag ymchwil arbenigol mewn tri maes:
- Technoleg Gyfreithiol: cefnogi datblygiad arloesiadau cyfreithiol, yn seiliedig ar ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol.
- Seiberfygythiadau: helpu i ddeall a gwrthsefyll seiberdroseddu, defnydd terfysgwyr o dechnolegau newydd, meithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein, camwybodaeth, newyddion ffug a defnyddio'r rhyngrwyd at ddibenion troseddu.
- Clinig y Gyfraith Abertawe: cefnogi'r agenda mynediad at gyfiawnder drwy hwyluso'r gwaith o dreialu a defnyddio technoleg gyfreithiol er mwyn mynd i'r afael â materion cyfreithiol.
Yn dilyn gwerthusiadau ar ddechrau ac yng nghanol y prosiect, a gwblhawyd yn 2020 a 2022, ymgymerwyd â gwerthusiad terfynol gan SQW Ltd i ddadansoddi'r prosiect a'i ganlyniadau'n drylwyr. Rhannwyd prif ganfyddiadau'r adroddiad yn gasgliadau ac yn argymhellion, fel a ganlyn.
Roedd y casgliadau'n gadarnhaol ar y cyfan a nodwyd y pwyntiau canlynol, ymysg eraill:
- Darparwyd y prosiect dan amgylchiadau heriol, gan alluogi Ysgol y Gyfraith i gyflawni ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang a sicrhau incwm cystadleuol ar gyfer ymchwil.
- Mae'r Labordy wedi adeiladu ac addasu'r cyfleusterau o ran technoleg gyfreithiol, seiberfygythiadau a Chlinig y Gyfraith, yn ogystal â sefydlu timau ymchwil a chyfathrebu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid.
- Mae gwaith y prosiect wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at weithgarwch ymchwil, gan ddenu cyllid ymchwil cystadleuol a phreifat. Sicrhawyd cyllid ymchwil gwerth £2.7m erbyn mis Ionawr 2023.
- Mae'r gwaith wedi cael ei reoli'n dda ac mae'n amlwg bod y prosiect wedi cael ei reoli a'i weinyddu'n gryf drwy gydol y broses o'i ddarparu.
Yn ogystal, cyflwynodd yr adroddiad gyfres o argymhellion, gan gynnwys y canlynol, ymysg eraill.
- Dylai'r Brifysgol geisio cwblhau ei adolygiad parhaus o opsiynau ar gyfer y Labordy mewn modd amserol, er mwyn sicrhau bod swyddogaeth ac amcanion y Labordy'n parhau i fod yn briodol yn y dyfodol, ac i ystyried ei gyllid yn y dyfodol. Mae'r gwaith wedi dechrau yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol i gynllunio etifeddiaeth Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru a llunio strategaeth ar ei chyfer.
- Dylai'r Brifysgol ystyried parhau â'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r platfform Technoleg Gyfreithiol rhithwir, a allai gael effaith ar allu cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a'r DU i gael mynediad at adnoddau technoleg gyfreithiol hanfodol, gan sicrhau etifeddiaeth bwysig i'r Labordy.
- Dylai'r Brifysgol ystyried y cyfleoedd sy'n deillio o groestoriad unigryw'r Labordy rhwng arbenigedd technoleg gyfreithiol a seiberfygythiadau, a sut gellir rhannu gwersi a ddysgwyd a gwybodaeth, gan nodi rhagor o gyfleoedd.
Yn gryno, roedd y Labordy'n brosiect a gynhaliwyd yn llwyddiannus, gan arwain at ganlyniadau gwirioneddol a all lywio dyfodol technoleg gyfreithiol, gwrthsefyll seiberfygythiadau, a’r agenda mynediad at gyfiawnder, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn ogystal ag yng Nghymru.
Os hoffech ddarllen rhagor am Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, a chanfyddiadau'r adroddiad, mae'r gwerthusiad terfynol llawn bellach ar gael ar-lein.