Bydd y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC) yn rhan o gonsortiwm i hybu mwy o ymwybyddiaeth a chydymffurfio â rheoliadau newydd yr Undeb Ewropeaidd i fynd i'r afael â chynnwys terfysgol ar-lein.
Mae rheolau newydd yr Undeb Ewropeaidd, a ddaeth i rym y llynedd, yn gorfodi unrhyw ddarparwr gwasanaeth lletya ar-lein sy'n cynnig eu gwasanaethau yn yr UE i gymryd camau gweithredol i gael gwared ar gynnwys terfysgol ar eu platfformau.
Mae hyn yn cynnwys darparwyr gwasanaethau lletya ar-lein sy'n storio gwybodaeth a ddarperir gan ddefnyddiwr ac ar gais defnyddwyr yn yr UE. Mae darparwyr gwasanaethau lletya ar-lein yn cynnwys y cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau rhannu fideo, delweddau a sain.
Mae gan y darparwyr awr i gael gwared ar gynnwys unwaith y bydd yr awdurdodau yn tynnu sylw ato. Mae'r awdurdodau cymwys hyn yn cynnwys cyrff barnwrol, gweinyddol, neu gyrff gorfodi'r gyfraith a benodwyd gan Aelod-wladwriaethau'r UE.
Mae'r rheoliadau newydd yn berthnasol i bob cwmni sy'n cynnig ei wasanaethau yn yr Undeb Ewropeaidd, ni waeth a yw ei bencadlys yn un o'r aelod-wladwriaethau ai peidio.
Bydd CYTREC yn rhan o gonsortiwm i hybu mwy o ymwybyddiaeth o reoleiddio cynnwys terfysgol yr UE ar-lein (TCO) drwy 'Tech Against Terrorism Europe' (TATE). Nod y fenter yw helpu cwmnïau technoleg llai i fodloni'r gofynion i fynd i'r afael â chyffredinolrwydd ac ymlediad cynnwys terfysgol ar eu platfformau.
Mae’r prosiect yn amserol oherwydd nad yw llawer o blatfformau technoleg yn ymwybodol o'r rhwymedigaethau newydd i fynd i'r afael â chynnwys terfysgol, a bennwyd gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r angen am fwy o eglurder ymhlith aelod-wladwriaethau eu hunain wedi ychwanegu at y broblem. Ym mis Ionawr 2023, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd lythyrau rhybudd i 22 o wledydd sy'n aelodau am fethu â chydymffurfio â rhwymedigaethau penodol o'r Rheoliad ar ledaenu cynnwys terfysgol ar-lein.
I hybu ymwybyddiaeth ac arferion gorau, bydd Tech Against Terrorism Europe yn cyfuno arbenigedd unigryw sy'n arwain ym myd diwydiant gan sefydliadau'r sector preifat a sefydliadau academaidd blaenllaw sy'n mynd ati'n rhagweithiol i fynd i'r afael â chynnwys terfysgol ar-lein.
Bydd y consortiwm o saith partner o chwe gwlad yn sicrhau y bydd Tech Against Terrorism Europe yn amharu ar gynnwys terfysgol ar-lein yn y tymor hir ar blatfformau blaenoriaethol, gan ddarparu sylfaen gynaliadwy i gefnogi darparwyr gwasanaethau lletya ar-lein llai wrth wrthsefyll cynnwys terfysgol ar-lein.
Meddai Cyfarwyddwr CYTREC, yr Athro Stuart Macdonald:
"Mae ein hymchwil wedi tynnu sylw yn gyson at ecsbloetio platfformau ar-lein bach gan grwpiau terfysgol a'u cefnogwyr, felly rydym wrth ein boddau i fod yn rhan o'r prosiect pwysig hwn a chael y cyfle i helpu'r platfformau hyn i fod yn fwy gwydn rhag eu hecsbloetio gan derfysgwyr".
Ariennir prosiect Tech Against Terrorism Europe gan Gronfa Diogelwch Mewnol yr Undeb Ewropeaidd (ISFP-2021-AG-TCO-101080101). Bydd y prosiect hwn yn cefnogi darparwyr gwasanaethau lletya ar-lein llai (HSPs) wrth greu eu fframweithiau gwrthderfysgaeth ac wrth adrodd am dryloywder, yn ôl gofynion rheoleiddio cynnwys terfysgol ar-lein yr UE ac yng Nghyfarwyddeb (UE) 2017/541.
Rhagor o wybodaeth ar wefan TATE neu gallwch chi gofrestru am gylchlythyr TATE ar-lein.