Mae ffocws cryf Ysgol y Gyfraith Abertawe ar ddysgu drwy brofiad yn parhau i dyfu a thalu ar ei ganfed.Rhan bwysig o hyn yw cefnogi a pharatoi timau o fyfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau drwy gydol y flwyddyn academaidd.Mae ein myfyrwyr yn cystadlu ar ran Ysgol y Gyfraith a'r Brifysgol mewn sgiliau eirioli mewn treialon, eirioli mewn apeliadau, cyfweld â chleientiaid, negodi a chyfryngu.
O dan arweiniad a hyfforddiant Dr Matthew Perry, Cydlynydd Dadlau mewn Ffug Lys Barn yr Ysgol, gyda chymorth tîm allweddol o academyddion, a Chymdeithas Cystadleuaeth Sgiliau'r Gyfraith Abertawe (SLSCA) a arweinir gan fyfyrwyr ac sydd newydd ei sefydlu, mae'r timau canlynol o fyfyrwyr eisoes wedi cyflawni llwyddiant ardderchog mewn nifer o gystadlaethau yn 2024:
- Gwnaeth Bradley Selleck ac Adshayan Kuruncikumaran (y ddau yn y 3ed flwyddyn) yn dda yng nghystadleuaeth dadlau mewn ffug lys barn Michael Corkery CB ar ôl cymhwyso gynt am y camau dileu. Er nad oeddent yn un o'r ddau dîm gorau i symud ymlaen i'r rownd derfynol, derbyniodd y tîm adborth da iawn gan y beirniad.
- Yng nghystadleuaeth genedlaethol Dadlau mewn Ffug Lys Barn Southampton, bu Rohan Ganeriwal (ail flwyddyn) a Raquel Grobe (3edd flwyddyn) yn chwifio'r faner dros Abertawe yn erbyn Prifysgol y Gyfraith Birmingham a Phrifysgol Sheffield Hallam. Cafwyd brwydr dda ond daethant y tu allan i'r 4 wnaeth gyrraedd y rownd derfynol.
- Yng nghystadleuaeth Dadlau mewn Ffug Lys Barn The English-Speaking Union, curodd Anna Lasenko (3edd flwyddyn) a Nick Mitchell (2il flwyddyn) Gaerwysg ac Aberystwyth i symud i'r 3edd rownd - gan gyrraedd yr 16 olaf ac mae hyn yn gamp i Abertawe yn y gystadleuaeth hon, ac efallai y byddant yn mynd ymhellach eto.
- Ym maes cyfryngu, teithiodd tîm Abertawe sef Chloe Gear, Chidinma Nwalupue a Norma Omiller (oll yn y flwyddyn olaf) i Gaeredin ar gyfer Cystadleuaeth Gyfryngu'r DU. Gyda'u tiwtor, Emma Richards, daethant yn 3ydd gan gynrychioli canlyniad gorau Abertawe yn y gystadleuaeth. Cafodd Chidinma hefyd y wobr am yr ail gyfryngwr unigol gorau.
-
Torrodd Lexie Stewart a Sara Wideman (sydd yn eu trydedd flwyddyn) dir newydd drwy ennill Cystadleuaeth Genedlaethol Cymru a Lloegr ar gyfer Cyfweld â Chleientiaid ar ran Abertawe am y tro cyntaf erioed! Gwnaethant berfformio'n ddisglair mewn tair rownd hynod heriol a gwnaethant ennill 20 pwynt mwy na'r ail dîm gorau o blith Prifysgol Bangor a Phrifysgol Sussex. Bydd Lexie a Sara'n cynrychioli Cymru yn y Gystadleuaeth Ryngwladol yng Ngwlad Pwyl.
- Wrth gyfweld â chleientiaid, enillodd Alexandra Stewart a Sara Wideman (y ddwy yn y 3edd flwyddyn) rownd ranbarthol ar-lein y Gystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid Genedlaethol lein gan guro 19 o dimau eraill. Maen nhw'n mynd ymlaen i'r gystadleuaeth genedlaethol.
- Yng nghystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid Mediate Guru, cyrhaeddodd Abigail Edwards (blwyddyn gyntaf) a Colm Yethon (blwyddyn gyntaf) y rownd gynderfynol a'r rownd go gynderfynol yn eu trefn.
- Ar gyfer negodi, roedd dau dîm o Abertawe'n rhan o rownd ranbarthol ar-lein Cystadleuaeth Negodi Genedlaethol CEDR. Perfformiodd Anna Lasenko (3edd flwyddyn) ac Amelia Triaca (2il flwyddyn) yn wych, gan golli allan o drwch blewyn ar symud ymlaen, ond gwnaeth Emma Layton an Hadley Middleton (y ddwy yn y 3edd flwyddyn) symud ymlaen i'r Gystadleuaeth Genedlaethol - y drydedd flwyddyn yn olynol y mae Abertawe wedi cyflawni'r llwyddiant hwn.
- Yn y Gystadleuaeth Negodi Drawsatlantig, dyfarnwyd gwobr yr eiriolwr unigol gorau i Chidinma Nwalupue (3edd flwyddyn) yn y categori rhyngwladol.
- Yn olaf, enillodd Chloe Gear ac Emily McGillivray-Crawford (y ddwy yn y flwyddyn olaf) Gystadleuaeth Negodi Ryng-brifysgolion Caerefrog yn y flwyddyn gyntaf i Abertawe gystadlu yn y gystadleuaeth hon. Gwnaethant ennill 5-0 gan guro timau o Gaerefrog, Warwig, Caergrawnt a Leeds.
Dyma ddechrau gwych i 2024, gyda llwyddiannau o fri ar draws y sbectrwm o gystadlaethau'r gyfraith, gan arwain at brofiad rhagorol i bob myfyriwr, a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd lawer, ac yn sylfaen gref ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Yn siarad am lwyddiannau'r myfyrwyr, dywedodd Dr Matthew Perry'r canlynol amdanynt:
"Fel ysgol y gyfraith, rydym yn cystadlu mewn rhwng 25 a 30 o gystadlaethau bob blwyddyn gyda'r cyfle i fyfyrwyr ar draws pob blwyddyn i gystadlu. Mae'r myfyrwyr sy'n gwneud hynny'n cynrychioli'r Brifysgol fel llysgenhadon yn rhagorol bob tro, ni waeth beth fo'r canlyniad. Mae'n dyst i'w gwaith caled, a’r gefnogaeth a roddir i'w gilydd drwy gydol yr SLSCA bod eu datblygiad addysgol yn cyd-fynd â'r canlyniadau gwych hyn. Dylai'r ychydig fisoedd nesaf fod hyd yn oed yn fwy cyffrous ac mae'n wych gweithio gyda'r myfyrwyr ar y prosiectau hyn".
Meddai Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Alison Perry:
"Mae'n hyfryd gweld ein myfyrwyr yn cynrychioli eu Hysgol y Gyfraith ar draws ystod eang o gystadlaethau, a chyda chymaint o lwyddiant. Rydym yn gobeithio eu bod nhw yr un mor falch o'u llwyddiannau ag yr ydym ni".