Mae heddiw'n nodi carreg filltir bwysig ym maes seiberddiogelwch wrth i Lywodraeth Cymru, ar y cyd â PureCyber a Phrifysgol Abertawe, lansio menter arloesol a fydd yn rhoi hwb i fesurau seiberddiogelwch busnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Gan gydnabod yr angen dirfawr i gryfhau amddiffynfeydd seiberddiogelwch busnesau bach a chanolig, mae'r Bartneriaeth Glyfar rhwng Llywodraeth Cymru, PureCyber a Phrifysgol Abertawe yn mynd i'r afael â'r rhwystrau presennol sy'n atal busnesau bach a chanolig rhag cyrchu atebion seiberddiogelwch cadarn.
Mae'r cydweithrediad arloesol hwn a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn dod ag arbenigedd PureCyber, darparwr atebion seiberddiogelwch blaenllaw, a rhagoriaeth academaidd Prifysgol Abertawe ynghyd. Drwy gynnal ymchwil fanwl a manteisio ar dechnolegau arloesol, arbenigedd a dealltwriaeth strategol, nod y bartneriaeth yw nodi rhwystrau i wella seiberddiogelwch a chynnig ymagwedd aml-haen at seiberddiogelwch hygyrch i fusnesu bach a chanolig.
'Mentrau bach a chanolig yw asgwrn cefn ein heconomi, ac mae eu diogelu rhag seiberfygythiadau yn hollbwysig', meddai Vaughan Gethin AS, Gweinidog dros yr Economi, Llywodraeth Cymru. 'Mae'r bartneriaeth hon yn dangos ein hymrwymiad i rymuso busnesau bach a chanolig gyda mesurau seiberddiogelwch hygyrch ac uwch, gan eu galluogi nhw i ffynnu mewn tirlun digidol cynyddol".
Bydd PureCyber, sy'n enwog am ei arbenigedd mewn atebion seiberddiogelwch ar gyfer busnesau o bob maint, yn datblygu ac yn lansio cyfres o wasanaethau'n benodol ar gyfer anghenion busnesau bach a chanolig. Mae hyn yn cynnwys modelau tanysgrifio y gellir eu teilwra, monitro bygythiadau'n rhagweithiol a dulliau ymateb cyflym i achosion oll wedi'u mapio i'r isafswm safonau sydd eu hangen i gael yswiriant seiber.
Bydd Prifysgol Abertawe'n cyfrannu at y prosiect drwy sawl academydd (yr Athrawon Baris Soyer a George Leloudas, Ms Angela Nicholas a Ms Gosia Kupiec) yn cynnig arweiniad academaidd ar yswiriant risg seiber, gan adeiladu ar yr ymchwil maen nhw wedi'i chynnal gynt sef Meithrin Gwydnwch Yswiriant Risg Seiber yng Nghymru a ariannwyd gan CAUCC. Yn ogystal, bydd y brifysgol yn cydweithio ar fentrau addysgol sy'n codi ymwybyddiaeth ac yn cynnig cyfleoedd hyfforddi i fusnesau bach a chanolig i wella eu gwydnwch seiberddiogelwch.
"Mae'r cydweithio strategol hwn yn nodi cyfnod newydd mewn seiberddiogelwch i fusnesau bach a chanolig", meddai Damon Rands, Prif Swyddog Gweithredol PureCyber. "Drwy integreiddio ein harbenigedd yng ngallu ymchwil Prifysgol Abertawe, rydym yn ceisio goresgyn rhwystrau mynediad y mae busnesau bach yn eu hwynebu. Drwy gynnig atebion cynhwysfawr i fusnesau bach a chanolig, bydd yn lleihau eu risg a hefyd yn meithrin ymagwedd ragweithiol at seiberddiogelwch. Ein cenhadaeth yw gwneud seiberddiogelwch yn hygyrch, yn fforddiadwy ac yn ddealladwy i bawb".
Bydd y cydweithio hefyd yn cyflwyno cydrannau unigryw i oresgyn rhwystrau y mae busnesau bach yn eu hwynebu, gan gynnwys opsiynau unigryw i fusnesau bach a chanolig i liniaru risgiau ariannol, tarfu ac enw da sy'n gysylltiedig ag achosion o seiberddigwyddiadau gan roi haenau ychwanegol o ddiogelwch a thawelwch meddwl i fusnesau bach a chanolig.
"Fel sefydliadau a arweinir gan ymchwil, mae Prifysgol Abertawe'n falch o gyfrannu at y fenter arloesol hon.” meddai Gosia Kupiec, Cydymaith Ymchwil Partner Clyfar ym Mhrifysgol Abertawe. "Bydd ein hymdrechion ar y cyd yn rhoi hwb i fesurau seiberddiogelwch busnesau bach a chanolig ond hefyd yn rhoi dealltwriaeth ac addysg amhrisiadwy gan sicrhau ecosystem ddigidol gynaliadwy a gwydn".
Mae'r Bartneriaeth Glyfar rhwng Llywodraeth Cymru, PureCyber a Phrifysgol Abertawe'n nodi cam allweddol ymlaen tuag at ddemocrateiddio mesurau seiberddiogelwch uwch i fusnesau bach a chanolig ledled Cymru. Mae'r ymdrech hon ar y cyd yn dangos ymrwymiad at feithrin amgylchedd digidol diogel, yn grymuso busnesau bach a chanolig mewn oes lle ceir mwy a mwy o fygythiadau seiber ac yn cryfhau diogelwch y genedl.