Yr LLM mewn TechGyfreithiol a Chyfraith Fasnachol yw'r rhaglen LLM ddiweddaraf o dan ymbarél Morgludiant a Masnach ym Mhrifysgol Abertawe.

Un o brif nodau'r rhaglen a'i manteision yw y caiff ei haddysgu o safbwynt ymarferol. Gyda hynny mewn cof, mae'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol yn ddiweddar wedi cysylltu â Kennedys IQ fel cymdeithas bartner.

Nod Kennedys IQ, sy'n cyfuno deallusrwydd pobl a pheiriannau, yw creu platfformau ac atebion ar gyfer diwydiannau amrywiol yn y sector masnachol, gan gynnwys yswirwyr, cwmnïau sy'n cludo nwyddau dros y môr a broceriaid. Yn ogystal â chynorthwyo gyda chyflwyno'r rhaglen LLM, mae Kennedys IQ bellach wedi lansio gwobr ar gyfer y myfyriwr sy'n perfformio orau ar y radd LLM ar y modiwl 'AI mewn Masnach ac Ymarfer Cyfreithiol'. 

Enillydd y wobr gychwynnol oedd Oluwakemi Lethecia Ishola. Mae Ms Ishola, sy'n hanu o Nigeria, wedi gweithio fel Cwnsler Cyfreithiol mewn sawl cwmni cyfreithiol cyn dechrau ar ei gradd LLM yn Abertawe.

Fel rhan o'r wobr, bydd Ms Ishola'n cael cynnig interniaeth gyda Kennedys IQ dros yr haf. Cyflwynwyd y wobr i Ms Ishola mewn derbyniad arbennig yn swyddfeydd Kennedys yn Llundain. Roedd yr Athrawon Leloudas a Soyer yn gwmni i Ms Ishola, a chawsant y cyfle i gwrdd ag aelodau allweddol Kennedys IQ, gan gynnwys Deborah Newbury (Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol) a Richard West (Pennaeth Arloesi a Phartneriaid).

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Leloudas, Cyfarwyddwr Modiwl AI mewn Masnach ac Ymarfer Cyfreithiol:

"Rydym yn hynod falch o gyflawniad Kemi ac yn hyderus y bydd yr interniaeth yn ei chynorthwyo gyda'i thwf parhaus yn y maes hwn.

"Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Kennedys IQ, yn arbennig i Ms Joanna Manthorpe (Uwch-gyfreithiwr Materion Corfforaethol); Mr Joe Cunningham (Rheolwr Cynnyrch) a Dr Harvey Maddocks (Gwyddonydd Data Arweiniol) am gefnogi taith IISTL ym meysydd cyfoes ac arloesol y gyfraith”.

Rhannu'r stori