Mae gan y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) gysylltiadau agos â'r diwydiant, gan gynnwys rhai o'r cwmnïau cyfraith morgludiant mwyaf blaenllaw yn y byd. Eleni, cafodd y Sefydliad y fraint o gynnal rownd derfynol Cystadleuaeth Dadlau mewn Ffug Lys Barn yr LLM Morgludiant a Masnach yn swyddfa Kennedys yn Llundain.
Mewn diweddglo gwych i dymor dwys o ddadlau mewn ffug lysoedd barn, rhoddwyd y cyfle i wyth dadleuwr gorau'r IISTL ddangos eu sgiliau cyflwyno a rhesymu cyfreithiol gerbron rhai o gewri'r diwydiant. Roedd yn fraint i'r IISTL groesawu'r beirniad canlynol: Kishore Sharma (36 Group), Michael Biltoo (Partner, Kennedys) ac Ingrid Hu (Cyfreithiwr Cysylltiol, Kennedys), a ddyfarnodd yn unfrydol o blaid Tîm yr Hawlydd yn eu penderfyniad terfynol.
Hoffai'r IISTL longyfarch yn ddidwyll i'r enillwyr, Mr Cesar Peniche-Luna (Llefarydd), Ms Laura Bosco-Carton (Llefarydd), Ms Iliana Fountoglu (Ymchwilydd) a Mr Jiale Lin (Ymchwilydd). Gwnaeth eu hymroddiad, eu dadleuon cyfreithiol creadigol a'u gwaith tîm gwych greu argraff ar bawb a oedd yn bresennol.
Roedd natur cwestiwn y gystadleuaeth yn eithriadol o gymhleth, gan ymdrin â rhai o'r pynciau masnachol arbenigol y mae myfyrwyr LLM Abertawe wedi bod yn eu hastudio drwy gydol eu gradd, a thrwy hynny gynnig cyfle iddynt roi'r hyn y maent wedi bod yn ei ddysgu ar waith.
Cynhaliwyd y rowndiau cychwynnol yn gynharach yn y flwyddyn, gyda mwy na phymtheg o dimau'n cystadlu am yr wyth lle yn y rownd derfynol yn Kennedys. Roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig ac roedd y safon yn uchel iawn yn gyffredinol. Roedd hyn yn arbennig o wir yn achos y tîm a gipiodd yr ail safle: Mr Joshua Benn (Llefarydd), Ms Nour Er (Llefarydd), Ms Rawan Albarkri (Ymchwilydd) a Mr Akash Dubey (Ymchwilydd), a fu'n wrthwynebwyr cadarn i'r enillwyr.
Roedd yr IISTL hefyd yn gallu dathlu enillwyr y ddadl amlinellol orau (rowndiau cychwynnol): Ms Winnie Kamau a Mr Christian Scharmer.
Estynnwyd llongyfarchiadau gan bawb yn y gynulleidfa, a oedd yn llawn myfyrwyr eraill yr LLM Morgludiant a Masnach, gan gynnwys dadleuwyr a gymerodd ran yn rowndiau cychwynnol y gystadleuaeth, a dau aelod staff, yr Athro Simon Baughen a George Leloudas.
Meddai Dr Kurtz-Shefford, Cyfarwyddwr y gystadleuaeth dadlau mewn ffug lys barn o ran Cyfraith Morgludiant a Masnach:
“Roedd y ddau dîm yn wych eleni. Roedd y gystadleuaeth yn un ddwys, gwnaethon nhw ymdrech ragorol heb roi'r gorau iddi - roedden nhw'n deyrnged i'w prifysgol. Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i Kennedys am gynnig profiad mor wych i'n myfyrwyr ac am gyfrannu at eu datblygiad cyfreithiol proffesiynol.”