Yn ddiweddar, gwnaeth yr Anrhydeddus Ustus Aishatu Auta Ibrahim o Dalaith Borno, Nigeria, dyngu llw fel Barnwr yn yr Uchel Lys Ffederal.
Mae'r Barnwr Ibrahim yn gyn-fyfyriwr o Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, a raddiodd yn 2010. Astudiodd am radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol; rhaglen meistr un flwyddyn sy'n ceisio meithrin gwybodaeth a sgiliau mewn meysydd allweddol y mae galw mawr amdanynt ymysg cyflogwyr.
Tyngodd ei llw ger bron Prif Ustus Nigeria, yr Ustus Olukayode Ariwoola, fel rhan o seremoni a gyflwynodd 23 o Farnwyr newydd yr Uchel Lys Ffederal.
Dyma'r datblygiad diweddaraf yn ei gyrfa gyfreithiol lwyddiannus, ar ôl iddi gael ei derbyn i Far Nigeria yn 2008 fel Cyfreithiwr ac Adfocad yng Ngoruchaf Lys Nigeria.
Yn ddiweddarach, dechreuodd ymarfer cyfreithiol yn 2008 gyda chwmni cyfreithiol Paul Usoro & Co., Lagos, gan weithio fel Cwnsler Iau cyn cymryd seibiant gyrfa i gwblhau ei LLM yn Abertawe.
Ar ôl cwblhau ei meistr, ymunodd â'r cwmni cyfreithiol Foundation Chambers ac mae'n ymgymryd ag amrywiaeth o aseiniadau cyfraith forol, fasnachol, ymgyfreitha a chorfforaethol, wrth gymryd rhan mewn sawl seminar a chynnig hyfforddiant i eraill sy'n gweithio yn y maes.
Ar hyn o bryd mae'n aelod o Gymdeithas Bar Nigeria, Cymdeithas y Bar Rhyngwladol, Cymdeithas Cyfraith Forol Nigeria, Sefydliad Siartredig Cyflafareddwyr y DU a Chymdeithas Cyflafareddwyr Morol Nigeria.
Wrth siarad am ei phenodiad diweddaraf, meddai'r Barnwr Ibrahim:
"Fel cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, Cymru, mae'n anrhydedd i mi gynrychioli'r sefydliad addysgol gwych ym Marnwriaeth Nigeria a byddaf yn gwneud fy ngorau i'ch gwneud i gyd yn falch drwy gyflawni fy nyletswyddau hyd eithaf fy ngallu, mewn gonestrwydd, a heb ofn na ffafriaeth. Rwy'n gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth a'r anrhydedd a roddwyd i mi."