Cwmni cyfreithiol yn Llundain yw Hannaford Turner LLP sy'n arbenigo'n benodol mewn cyllid llongau, adeiladu llongau a phrynu a gwerthu.
Mae gan y cwmni berthynas agos â’r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn 2019 cyflwynodd wobr am y myfyriwr sy'n perfformio orau ym modiwl Cyllid Llongau ac Asedau Symudol Eraill yr LLM yn Abertawe. Mae clod mawr i'r wobr; yn ychwanegol at ei gwerth ariannol, mae hefyd yn cynnwys interniaeth gyda'r cwmni ei hun.
Enillydd eleni oedd Vishesh Tyagi. Mae gan Vishesh, sy'n hanu o India yn wreiddiol, radd yn y gyfraith o Ysgol y Gyfraith Symbiosis (Pune), ac mae wrthi'n cwblhau ei radd LLM mewn Cyfraith Forwrol Ryngwladol yn Abertawe.
Cyflwynwyd y wobr yn Llundain gan Matt Hannaford, un o Bartneriaid sefydlu Hannaford Turner LLP. Roedd Ece Birinci, un o Gymdeithion y cwmni, a raddiodd o raglen LLM Abertawe y llynedd â rhagoriaeth, hefyd yn y digwyddiad fel enghraifft wych o sut gall gradd LLM Abertawe helpu myfyrwyr i gyflawni eu potensial llawn.