Mae'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol yn falch o gyhoeddi bod gwaith tri o'i aelodau wedi ymddangos ym mhapur ymgynghoriad diweddar Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr ar Ymreolaeth Awyrennau (Papur Ymgynghoriad 261).
Yn y papur, cyfeiriwyd at yr adnodd Shawcross and Beaumont: Air Law, yr Athro George Leloudas yw ei Olygydd Cyffredinol, yn fwy nag at unrhyw gyhoeddiad arall, gan amlygu ei rôl bwysig ym maes cyfraith cludiant a dylanwad yr Athro Leloudas ar faterion awyrennau.
Hefyd, dyfynnwyd un o’r erthyglau diweddar gan yr Athro Soyer a'r Athro Tettenborn ar “Artificial Intelligence and Civil Liability – Do We Need A New Regime?” [(2022) International Journal of Law and Information Technology 385] yn y papur sawl gwaith gan ategu effaith eu hymchwil ar ddatblygu gwybodaeth am ddysgu peirianyddol a deddfau atebolrwydd.
Mae hyn yn enghraifft berffaith o sut mae aelodau'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnachu Rhyngwladol yn cyflwyno ymchwil sy'n torri tir newydd ac sy'n gallu llywio cyfeiriad cyfraith cludiant yn y dyfodol a llwybr disgwrs academaidd.