Crynodeb o'r Newyddion

Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang

Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang: Lansio cyfres newydd

A allwn ymddiried mewn gwleidyddion? Sut rydym yn sicrhau diogelwch bwyd byd-eang? Pwy sy'n gymwys i gystadlu mewn chwaraeon elît? Dyma'r cwestiynau sy'n cael eu hateb gan academyddion o Brifysgol Abertawe yng nghyfres nesaf y podlediad ymchwil Archwilio Problemau Byd-eang.

Darllen mwy
Llun ffôn clyfar

Bydd canllaw newydd yn helpu barnwyr i asesu tystiolaeth ffynhonnell agored ddig

Yn oes ddigidol ffugiadau dwfn a deallusrwydd artiffisial, bydd canllaw newydd amserol – sydd wedi’i lansio heddiw – yn helpu barnwyr i asesu a yw lluniau ffynhonnell agored a gyflwynir fel tystiolaeth yn ddilys, yn gredadwy ac yn ddibynadwy.

Darllen mwy
Person yn teipio ar fysellfwrdd

Mae arbenigwyr yn datgelu mewnwelediadau newydd i gadw plant yn ddiogel ar-lein

Mae Prosiect DRAGON+ Prifysgol Abertawe wedi dathlu ei gyfraniad newydd yn y frwydr yn erbyn meithrin perthynas amhriodol ar-lein mewn digwyddiad arbennig i gyflwyno ei fewnwelediadau ymchwil arloesol a'i awgrymiadau ac i lansio allbynnau craidd y prosiect.

Darllen mwy
Menyw yn nofio

Mae safbwyntiau ar gynhwysiant trawsryweddol mewn chwaraeon elitaidd yn amrywio

Mae astudiaeth newydd yn dangos bod y mwyafrif o athletwyr benywaidd (58%) yn cefnogi categoreiddio yn ôl rhyw biolegol, yn hytrach na hunaniaeth rhywedd, ond mae safbwyntiau'n amrywio yn ôl y cyd-destun chwaraeon. Yr astudiaeth a adolygwyd gan gymheiriaid yw'r un fwyaf o'i math ac mae’n seiliedig ar ddadansoddiad cynhwysfawr a thrylwyr o’r data.

Darllen mwy
Coeden hylif

Prifysgol cefnogi rhaglen addysg arloesol ynghylch newid yn yr hinsawdd

Mae Prifysgol Abertawe wedi gwneud cyfraniad allweddol at helpu Abertawe i gyflwyno ‘coed hylifol’ i bob ysgol gynradd – y ddinas gyntaf yn y DU i wneud hynny – gan addysgu disgyblion ynghylch newid yn yr hinsawdd a chreu amgylchedd dysgu iachach.

Darllen mwy
Plentyn yn siarad â mam

Mae Astudiaeth yn amlygu sgiliau sy'n cyd-fynd â rhaglenni niwroddatblygiadol

Yn ôl ymchwil newydd, dylid dathlu'r amrywiaeth eang o sgiliau sy'n cael eu harddangos gan bobl sydd â chyflyrau megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), dyslecsia ac awtistiaeth, er mwyn helpu i leihau stigma a newid disgwyliadau cymdeithas.

Darllen mwy

Uchafbwyntiau Ymchwil

ChatGPT

Effaith Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchol ar Addysg Uwch

Mae'r Athro Yogesh Dwivedi, Dr Tegwen Malik a Dr Sandra Dettmer o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe a Dr Laurie Hughes o Brifysgol Edith Cowan yng Ngorllewin Awstralia yn gweithio i nodi effaith AI cynhyrchiol mewn Addysg Uwch ac ar draws ystod o ddiwydiannau.

Darganfod mwy
Celloedd canser

Rydym yn hwyluso ymchwil canser gyn-glinigol flaengar

Diolch i gyllid gan brosiect newydd Horizon Europe, bydd tri sefydliad - Prifysgol Abertawe, Prifysgol Stockholm yn Sweden a Chanolfan Feddygol VU Amsterdam, yn yr Iseldiroedd - yn rhannu eu harbenigedd penodol a chyflenwol gyda'r Sefydliad Cenedlaethol Bioleg , (Slofenia) ym mhrosiect gefeillio CutCancer.

Darganfod mwy
Deunydd printiedig

Gwella ansawdd a lleihau gwastraff yn y diwydiant argraffu fflecsograffig

Mae ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe dan arweiniad yr Athro David Gethin yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC) wedi mynd i'r afael â'r heriau hyn, gan ddarparu gwelliannau sylweddol i argraffwyr fflecsograffig ar raddfa fyd-eang.

Darganfod mwy

Ffocws Abertawe

Person tu ôl i fariau

'Using digital technology to support people in the criminal justice system'

Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, mae Dr Gemma Morgan yn trafod prif nodweddion yr ap, sut mae ei hymchwil wedi arwain at fanteisio ar dechnoleg ddigidol mewn ffyrdd newydd a sut bydd helpu i adsefydlu troseddwyr mewn cymdeithas yn dod â buddion economaidd a chymdeithasol i gymdeithas yn gyffredinol.

Gwrandewch nawr
Yn Agos i Bobl Ifanc Gydag Anweddu Ffonau Symudol

'Vaping now more common than smoking among young people'

Yn yr erthygl hon o The Conversation, mae Dr Amira Guirguis yn trafod nifer yr achosion o anweddu ymhlith pobl ifanc a sut mae'r risgiau'n mynd y tu hwnt i niwed i'r ysgyfaint a'r ymennydd

Darllen mwy

Dan y chwyddwydr...

Dr Julie Peconi

Ymchwilydd Gyrfa Gynnar

Dr Julie Peconi yw Prif Ymchwilydd (CI) yr Astudiaeth Sunproofed. Nod ei hymchwil yw deall sut mae ysgolion cynradd yng Nghymru yn ymateb i gyfraddau cynyddol canser y croen ac archwilio effeithiolrwydd polisïau diogelwch haul mewn ysgolion a'u heffaith ar wybodaeth ac ymddygiad.

Darganfod mwy
Aaron Todd

Ymchwilydd ôl-raddedig

Mae Aaron Todd yn fyfyriwr PhD yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Mae ei ymchwil yn archwilio sut mae halogiad metel o hen fwyngloddiau yng Nghymru yn mynd i mewn i gyrsiau dŵr ac afonydd, a ffyrdd y gellir adfer hen safleoedd.

Darganfod mwy
Logo GREAT

Canolfan Ymchwil

Diben Rhwydwaith GREAT Cymru yw ysgogi ymchwil i bob math o niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymhlith unigolion, teuluoedd a chymunedau, gan annog addysg amdano a dulliau i'w drin. Fel rhwydwaith o ymchwilwyr, darparwyr gwasanaeth, pobl â phrofiad go iawn a llunwyr polisi, mae GREAT yn cynnig triniaeth ar sail tystiolaeth a gwasanaethau addysgol ac ymgynghori ar gyfer yr holl sectorau, mae'n cynhyrchu ymchwil ddiduedd o safon a adolygir gan gymheiriaid, ac yn gweithredu fel cronfa wybodaeth ar gyfer tystiolaeth sydd wedi'i seilio ar ymchwil wyddonol a pholisïau am gamblo a'i niwed cysylltiedig.

Darganfod mwy

Cydweithrediadau a Phartneriaethau Ymchwil

Darlun ffliw pandemig

Cydweithrediad rhyngwladol newydd â'r nod o atal mathau ffliw pandemig

Mae Prifysgol Abertawe'n bartner mewn cydweithrediad rhyngwladol newydd i ddatblygu ffyrdd gwell o atal ffliw pandemig a diogelu iechyd byd-eang. Dyfarnodd Sefydliad Novo Nordisk gyllid gwerth €1.8m i'r prosiect ‘Precision Glycol-oligomers as Heteromultivalent Pandemic influenza Virus Blockers’ er mwyn cefnogi gwaith i ddatblygu atalyddion feirws ffliw A pandemig.

Darllen mwy
Staff o Brifysgol Abertawe a Chanolfan Ganser De Orllewin Cymru

Mae sganiau MRI manwl uchel yn helpu radiotherapi i dargedu tiwmorau yn fwy cywi

Mae pobl sy'n cael triniaeth canser yn Abertawe bellach yn elwa ar radiotherapi llawer mwy wedi'i dargedu - sy'n bosibl oherwydd rhoddion elusennol a phartneriaeth rhwng Canolfan Ganser De Orllewin Cymru a Phrifysgol Abertawe.

Darllen mwy
Safle treftadaeth ddiwylliannol

Ffilmiau newydd i ddysgu sefydliadau cymorth am warchod treftadaeth ddiwyllianno

Bydd cyfres o ffilmiau byr newydd sy’n cynnwys arbenigwr o Brifysgol Abertawe yn helpu gweithwyr cymorth i ddeall sut gall gwarchod treftadaeth ddiwylliannol yn ystod gwrthdaro fod yn fater dyngarol hollbwysig, gan ei fod yn atgyfnerthu pobl mewn sefyllfaoedd anodd.

Darllen mwy
Yr Athro Matthew Davies

UNESCO yn dyfarnu Cadair uchel ei bri i Athro o Brifysgol Abertawe

Mae UNESCO wedi dyfarnu Cadair mewn Technolegau Ynni Cynaliadwy i'r Athro Matthew Davies, arweinydd Ffotocemeg Gymhwysol a’r Economi Gylchol yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe. Mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Abertawe a 15 o bartneriaid ledled Affrica a De'r Byd, bydd yr Athro Davies yn datblygu technolegau solar sy'n addas i'w gweithgynhyrchu a'u defnyddio yn yr ardaloedd hyn.

Darllen mwy

Cofrestrwch i dderbyn y rhifyn diweddaraf o MOMENTUM yn syth i'ch mewnflwch

Drwy lenwi'r ffurflen hon rydych yn cydsynio i dderbyn MOMENTUM drwy e-bost. Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod e-bost. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.