Drwy lenwi'r ffurflen hon rydych yn cydsynio i dderbyn MOMENTUM drwy e-bost. Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod e-bost. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.
Rydym yn cyfrannu at amgylchedd bwyd iach a chynaliadwy ar gyfer oedolion hŷn
Gwella Iechyd Cardiofasgwlaidd Menywod ar ôl y Menopos
Mae menywod ar ôl y menopos yn profi cynnydd mewn risg o glefyd cardiofasgwlaidd oherwydd heneiddio, llai o weithgarwch corfforol a chynnydd ym mhwysau'r corff. Mae'r risg hon yn cynyddu ymhellach oherwydd newidiadau mewn hormonau yn ystod y menopos sy'n gallu arwain at golesterol y gwaed a phwysau gwaed uwch a gwaethygiad yng ngweithrediad y gwaedlestri. Mae’n destun pryder y gall y risg gardiofasgwlaidd uwch hon fyrhau hyd oes.
Defnyddiwch dystiolaeth ffynhonnell agored i sicrhau atebolrwydd
Gall llygad-dystion i erchyllterau ledled y byd ddefnyddio eu ffonau symudol i gofnodi tystiolaeth mewn amser real. Gall y dystiolaeth hon gan ddinasyddion fod yn ddefnyddiol wrth geisio sicrhau atebolrwydd cyfreithiol, yn enwedig os na fydd ymchwilwyr wedi gallu cael mynediad i’r llefydd hynny ble mae’r erchyllterau wedi digwydd.
UNESCO yn dyfarnu Cadair uchel ei bri i Athro o Brifysgol Abertawe
Mae UNESCO wedi dyfarnu Cadair mewn Technolegau Ynni Cynaliadwy i'r Athro Matthew Davies, arweinydd Ffotocemeg Gymhwysol a’r Economi Gylchol yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe.
BioHYB Cynhyrchion Naturiol Abertawe'n sicrhau cyllid UKRI gwerth £4.5m
Mae BioHYB Cynhyrchion Naturiol Prifysgol Abertawe wedi sicrhau cyllid gwerth £4.5m fel rhan o fenter Cyflymu Economïau Gwyrdd UKRI.
Mae gwarchod treftadaeth ddiwylliannol mewn ardaloedd gwrthdaro
Bydd cyfres o ffilmiau byr newydd sy’n cynnwys arbenigwr o Brifysgol Abertawe yn helpu gweithwyr cymorth i ddeall sut gall gwarchod treftadaeth ddiwylliannol yn ystod gwrthdaro fod yn fater dyngarol hollbwysig, gan ei fod yn atgyfnerthu pobl mewn sefyllfaoedd anodd.
Mesur effaith nodi Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru
Roedd gan bron hanner y bobl a aned yng Nghymru rhwng 2002 a 2003 anghenion addysgol arbennig, yn ôl ymchwil newydd, sy'n codi'r cwestiwn am y system a ddefnyddir i ddiagnosio cenhedlaeth o blant Cymru.
Lefelau o ddiogelwch haul ffurfiol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru
Gallai ysgolion cynradd yng Nghymru wneud mwy i helpu i ddiogelu pobl ifanc rhag peryglon dod i gysylltiad â'r haul, yn ôl astudiaeth newydd.
Datblygu Gwasanaeth Iechyd Gwladol cynaliadwy
Rydym yn profi mwy a mwy o donnau gwres dwys o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, sy'n cael effaith negyddol ar iechyd miliynau o bobl, gan gynnwys yma yn y DU.
Ymchwilydd Gyrfa Gynnar
Mae ymchwil newydd Dr Michelle Hardman yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn gobeithio datblygu triniaeth sy'n seiliedig ar fêl manuka ar gyfer haint rheolaidd ar yr ysgyfaint mewn pobl sydd â ffeibrosis systig.
Ymchwilydd ôl-raddedig
Mae arbenigwr ym Mhrifysgol Abertawe sy'n ymchwilio i gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl anabl wedi ennill ysgoloriaeth deithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, gan ei galluogi i ddatblygu ei hymchwil ymhellach.
StreetSnap: Lansio ap cyntaf o'i fath i feithrin gwydnwch y gymuned i gasineb
Mae'r gwyddonydd cymdeithasol blaenllaw o Brifysgol Abertawe Dr Lella Nouri a'i thîm wedi datblygu ap newydd sy'n chwyldroi'r ffordd y gall cymunedau olrhain ac adrodd am graffiti casineb gyda'r nod o ddeall tensiynau mewn cymuned a llunio rhaglenni ymyrraeth er mwyn rhoi diwedd ar y problemau.
Sut gallai'r drefn rydych yn cael clefydau effeithio ar eich disgwyliad oes
Wrth i boblogaethau'r byd fyw'n hirach, mae pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor amryfal (a adwaenir hefyd fel cydafiechedd) yn bryder iechyd mawr ledled y byd. Yn y DU, mae gan dros 25% o oedolion ddau neu fwy o gyflyrau iechyd hirdymor. Mae hyn yn cynyddu i 65% ymhlith pobl sy'n hŷn na 65 oed, a bron 82% ar gyfer y rhai hynny sy'n 85 oed neu'n hŷn.
Ymagwedd at dechnoleg ddigidol sy’n canolbwyntio ar bobl
A oes risg y byddwn yn cwympo i ‘dywyllwch digidol’? A fydd technoleg yn arwain at golli cyfathrebu wyneb yn wyneb?
Mae’r Athro Matt Jones yn credu bod risg ac mae’n credu y bydd ymagwedd at dechnolegau digidol sy’n canolbwyntio ar bobl yn ein helpu i atal hyn a helpu i fynd i’r afael â ‘dyfodiad y robot’.
Pennod 4: 'Traffic, transport and our behaviour'
Rydym yn gwybod o ymchwil i gludiant bod y rhan fwyaf o deithiau yn y DU am lai na phum milltir ag un person yn unig yn y cerbyd, felly sut gallwn annog pobl i ddefnyddio ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio? Yn y bennod podlediad hon, mae Ian Walker, Athro Seicoleg Amgylcheddol, yn archwilio ffenomenon 'normadedd gyrru' (motor normativity).
Addressing cybersecurity risks of self driving vehicles
Mae gan gerbydau sy'n gallu gyrru eu hunain at ddibenion cludo teithwyr a llwythi y potensial i weddnewid cludiant cyhoeddus a theithio, a bydd y buddion niferus yn cynnwys lleihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd sy'n deillio o wallau dynol, ynghyd â gwella cysylltedd ardaloedd anghysbell â nwyddau a gwasanaethau gofal iechyd. Serch hynny, bydd meithrin ffydd y cyhoedd mewn systemau awtonomaidd a goresgyn y rhagdybiaeth o risg yn heriol.
Using digital technology to support people in the criminal justice system
Ar hyn o bryd, mae poblogaethau carchardai Cymru a Lloegr ymysg yr uchaf fesul 100,000 o bobl yn y byd gorllewinol. Mae cyfraddau aildroseddu presennol y rhai hynny sy'n cael eu rhyddhau o’r carchar rhwng 40% a 60%.