Mae'n bleser gan Dr Samantha Burvill o'r Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe rannu’r newyddion am gyhoeddi’r gwerslyfr arloesol “Cases on Entrepreneurship and Innovation: Unexplored Topics and Contexts".

Mae'r prosiect hwn, sydd wedi bod ar y gweill am y tair blynedd diwethaf, yn ganlyniad i angerdd, ymroddiad a gwaith caled diwyro Samantha Burvill a'i chyd-olygyddion uchel eu parch Jana Schmutzler de Uribe, Lorena A. Palacios-Chacon a Veneta Andonova.

Mae'r gwerslyfr yn cynnwys casgliad amrywiol o astudiaethau achos addysgu ynghylch entrepreneuriaeth ac arloesedd, gydag awduron o bob cwr o'r byd yn cyfrannu ato. Mae'r astudiaethau achos hyn yn cynnig dealltwriaeth unigryw o bynciau a chyd-destunau llai adnabyddus, gan gyfoethogi dealltwriaeth academaidd ac ymarferol myfyrwyr, addysgwyr a gweithwyr proffesiynol yn y gymuned fusnes.

Mynegodd Samantha Burvill ei chyffro am y prosiect, gan ddweud, "Mae wedi bod yn bleser gennyf weithio ochr yn ochr â thri academydd a chyd-olygydd benywaidd angerddol a gweithgar. Drwy'r cydweithrediad hwn, rwyf wedi ennill dealltwriaeth amhrisiadwy o achosion addysgu gan awduron ledled y byd. Mae eu hymroddiad wedi arwain at gasgliad o achosion addysgu sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r opsiynau arferol sydd ar gael i'n gweithgarwch addysgu. Bydd y gwerslyfr hwn yn cyfrannu at brofiadau dysgu ac addysgu mwy amrywiol ac ysbrydoledig, a fydd yn ysgogi'r meddwl, i fyfyrwyr ac addysgwyr fel ei gilydd. Mae hefyd yn rhoi dealltwriaeth bellach o entrepreneuriaeth ac arloesedd byd-eang i'r gymuned fusnes."

Mae'r gwerslyfr eisoes wedi cael ei ganmol yn fawr gan ysgolheigion blaenllaw, gan gynnwys yr Athro David Audretsch, a ganmolodd y llyfr am ei ymagwedd gynhwysfawr ac arloesol at addysgu entrepreneuriaeth ac arloesedd.

Mae'r Ysgol Reolaeth yn falch o gefnogi gwaith academaidd arloesol o'r fath ac yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y gwerslyfr hwn yn ei chael ar y cymunedau academaidd a busnes. Mae'r cyhoeddiad hwn yn tanlinellu ymrwymiad ein hacademyddion i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o entrepreneuriaeth ac arloesedd, gan sicrhau bod gan fyfyrwyr a chydweithwyr yr wybodaeth a'r sgiliau i ymdrin â’r dirwedd fusnes sy'n esblygu'n barhaus ac i ragori ynddi.

Am ragor o wybodaeth am “Cases on Entrepreneurship and Innovation: Unexplored Topics and Contexts” ac i gael copi, cliciwch yma.

Rhannu'r stori