Mewn astudiaeth sy’n torri tir newydd wedi’i chynnal gan y Sefydliad Ymchwil i Arloesi ac Entrepreneuriaeth, mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru (FSB) wedi cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr o’r enw “Manufacturing Momentum,” sy’n taflu goleuni ar sefyllfa bresennol a rhagolygon dyfodol y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Mae’r adroddiad, a ddeilliodd o wybodaeth a ddarparwyd gan aelodau o’r FSB a chwmnïau cynhyrchu ar draws y rhanbarth, yn cynnig cofnod manwl o’r heriau mae busnesau bach a chanolig (BBaCh) wedi’u hwynebu o fewn y sector dros y degawd diwethaf. Yn nodedig, mae’r ymchwil yn dangos tuedd sy’n peri pryder wrth i gwmnïau gweithgynhyrchu bychain yng Nghymru brofi gostyngiad sylweddol o 20% rhwng 2010 a 2022. I’r gwrthwyneb, profodd cwmnïau mwy gynnydd o 15% yn ystod yr un cyfnod, sy’n dangos mantais amlwg i gwmnïau sydd â’r gallu i ymdopi â heriau byr dymor ac alinio â pholisïau hirdymor y llywodraeth.
Dylanwadwyd ar dirwedd ddeinamig y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru gan gydlifiad o ffactorau, yn cynnwys integreiddio technolegau newydd, pwysigrwydd cynyddol cysyniad yr economi gylchol, ac amgylchedd busnes sydd wedi’i lunio gan ôl-effeithiau Brexit, heriau parhaol pandemig Covid-19, newidiadau mewn prisiau ynni, ac ansicrwydd gwleidyddol byd-eang. Mae’r ffactorau hyn ar y cyd yn creu cyfres o broblemau cymhleth ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru sydd yn gwmnïau micro, bach neu ganolig, sy’n cwmpasu problemau sy’n ymwneud â chadwyni cyflenwi, hyfforddiant a sgiliau, arloesi, cyllid, isadeiledd, a chynaliadwyedd.
Un o ganfyddiadau hollbwysig yr ymchwil yw bodolaeth bwlch rhwng busnesau sy’n canolbwyntio ar bwysau byrdymor a’r angen hanfodol am weledigaeth hirdymor. Byddai pontio’r bwlch hwn, yn ôl yr adroddiad, yn grymuso busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru i sefydlu sylfaen fwy gwydn, gyda ffocws allweddol ar ddatblygu sgiliau i baratoi ar gyfer cyfleoedd y dyfodol.
Wrth drafod yr her hon, mae’r adroddiad yn tanlinellu rôl ganolog ecosystem entrepreneuraidd Cymru, gan alw am ymdrech gydweithredol gan y llywodraeth ar bob lefel, sefydliadau addysg uwch, a busnesau yng Nghymru. Mae Prifysgol Abertawe, ac yn benodol y Sefydliad Ymchwil i Arloesi ac Entrepreneuriaeth, wedi datgan eu parodrwydd i gefnogi’r agenda hollbwysig hon yn llwyr.
Pwysleisiodd David Pickernell, Athro Polisi Datblygu Busnesau Bach a Menter, a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil i Arloesi ac Entrepreneuriaeth yn yr Ysgol Reolaeth, arwyddocâd yr ymchwil gan nodi, ”Mae’r ymchwil bwysig hon ar gyfer FSB Cymru yn dangos bod y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yn gyffredinol, a BBaCh gweithgynhyrchu yng Nghymru yn benodol, wedi wynebu newid sylweddol dros y degawd diwethaf, a byddant yn parhau i’w wynebu heb amheuaeth dros y ddeng mlynedd nesaf.”
Ychwanegodd, “mae’n hollbwysig felly, bod prifysgolion yn chwarae eu rhan lawn trwy arloesi, cyfnewid gwybodaeth, addysg, sgiliau a hyfforddiant, yn ogystal ag ymchwil i gefnogi gwydnwch y rhan allweddol hon o economi Cymru wrth iddi drawsnewid i systemau cynhyrchu mwy cynaliadwy a chylchol.”
Yn ogystal â bod yn ddadansoddiad cynhwysfawr o’r heriau mae BBaCh gweithgynhyrchu yng Nghymru yn eu hwynebu, mae’r adroddiad “Manufacturing Momentum” hefyd yn cynnig llwybr ar gyfer mentrau cydweithredol sy’n gallu paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy a gwydn i’r sector.