Mae cael eich cynnwys yn ddigidol yn dod yn hanfodol wrth i gymdeithas fynd yn fwyfwy digidol, ac mae hynny’n mynnu bod pedwar peth ar waith: mynediad at fand eang da, data a dyfeisiau fforddiadwy, y sgiliau i ddefnyddio’r rhyngrwyd, a’r ewyllys i wneud hynny.
Nid yw 180,000 o oedolion yng Nghymru ar-lein o hyd [1] ac mae gorgynrychiolaeth ymhlith rhai grwpiau o ran cael eu hallgau: pobl hŷn, pobl â chyflyrau hirdymor, trigolion tai cymdeithasol a phobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
Yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig, mae tlodi data yn dod yn rhwystr fwyfwy arwyddocaol rhag cynhwysiant digidol wrth i bwysau ariannol ar aelwydydd waethygu ac mae hyn wedi ysgogi Pwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar Gyfathrebu a Digidol i gynnal ymchwiliad i effaith yr argyfwng costau byw ar gynhwysiant digidol yn y DU.
Estynnwyd gwahoddiad i ysgolhaig yr Ysgol Reolaeth, yr Athro Hamish Laing, roi tystiolaeth i’r pwyllgor ar ran Cymru. Dywedodd wrth y pwyllgor mai cyfiawnder cymdeithasol yn bennaf, yn hytrach na datblygu economaidd, sy’n gyrru polisi yng Nghymru ar gyfer cynhwysiant digidol, a disgrifiodd y dull sydd wedi’i fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru ynghyd â’r 90 a mwy o sefydliadau sy’n llunio Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, y mae’n gadeirydd arni.
Yn ystod hanner cyntaf 2022, torrodd 19% o bobl yng Nghymru yn ôl ar y rhyngrwyd neu ar ddyfeisiau i fynd at y rhyngrwyd oherwydd pryderon ariannol [2] ac mae tlodi data yn un o 5 blaenoriaeth ar gyfer gweithredu Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, mewn agenda a gyhoeddwyd yn ddiweddar “O Gynhwysiant i Wydnwch”.
Meddai’r Athro Laing, “mae’n galonogol fod yr Arglwyddi yn pryderu am wir effaith costau byw ar gynhwysiant digidol ac yn ceisio tystiolaeth ac arfer dda i’w rhannu o’r gwledydd datganoledig i lywio’u hargymhellion i Lywodraeth y DU. Roeddwn i’n gallu dweud wrthynt fod Prifysgol Abertawe yn bartner i Gymunedau Digidol Cymru, Rhaglen Cynhwysiant Digidol cenedlaethol Llywodraeth Cymru, a’n gwaith hefyd gyda Phrifysgolion Lerpwl a Loughbourough, The Good Things Foundation a Cwmpas i ddiffinio Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol i Gymru.”
Gellir gwylio recordiad o sesiwn dystiolaeth Pwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi yma a disgwylir adroddiad gan y Pwyllgor yn hwyrach eleni.
[1] Arolwg Cenedlaethol Cymru: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 | LLYW.CYMRU