Ar y cyd â Chyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol Gyfun Brynteg, daeth dros 300 o ddisgyblion a staff i Gampws y Bae am ddiwrnod o ddysgu ymdrochol ac archwilio.
Gwnaeth y digwyddiad unigryw arddangos ymroddiad staff y brifysgol, a ddaeth ynghyd i gyflwyno darlithoedd a gweithdai diddorol, gan roi cipolwg ar fyd addysg uwch.
Dechreuodd y dydd drwy gynnal dwy ddarlith fawr yn y Neuadd Fawr, ac yna ugain seminar rhyngweithiol ar draws y campws. Cafodd y disgyblion gyfle i brofi amgylchedd y brifysgol ac addysgu mewn addysg uwch drwy sesiynau wedi'u teilwra i adlewyrchu themâu o ran eu datblygiad academaidd a bugeiliol.
Gwnaeth y sesiwn gyntaf, a arweiniwyd gan Dr Gerad Oram, drafod pwysigrwydd hanesyddol a phrofiadau adeg rhyfel o dde Cymru, yn benodol Abertawe. O'r Blitz i baratoadau ar gyfer glaniadau Diwrnod D, bu'r disgyblion yn rhan o drafodaethau grŵp, gan gymryd rolau haneswyr go iawn wrth ddadansoddi ffynonellau hanesyddol.
Roedd Dr Oram yn edmygu'r myfyrwyr gan ddweud, "Gwnaeth y myfyrwyr greu argraff arnaf gyda lefel eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, yn ogystal â'u parodrwydd i ateb cwestiynau ac awgrymu atebion."
Gwnaeth yr ail brif sesiwn, a gynhaliwyd gan dîm Mentergarwch ac Ymgysylltu'r Brifysgol, ganolbwyntio ar bwysigrwydd mentergarwch, arloesi a chynaliadwyedd yn yr economi fodern. Bu'r disgyblion yn cydweithio mewn timau bach yn ystod y gweithdai, gan greu syniadau a chyflwyno atebion a oedd yn ceisio creu effaith gadarnhaol ar y byd.
Gwnaeth Nicola Lane, a oedd yn cynrychioli clwstwr dyniaethau Brynteg, ganmol y digwyddiad drwy ddweud, "Gwnaeth ein holl ddisgyblion fwynhau'r diwrnod yn fawr. Roeddent wedi ymgysylltu a chyfranogi'n llawn yn y sesiynau a gyflwynwyd gan staff y brifysgol". Amlygodd effeithiolrwydd yr adnoddau a'r ysgogiad a gafwyd ganddynt, gan ychwanegu "Dywedodd nifer o'r disgyblion faint roeddent yn edmygu'r campws a'r dysgu yn ystod y dydd". Dywedodd llawer o'n disgyblion na allent aros i fynd i Brifysgol Abertawe go iawn".
Cynhaliodd y tîm Mentergarwch, a oedd yn falch o fod yn rhan o'r digwyddiad, weithdai a wnaeth ganolbwyntio ar ffurfio syniadau a busnesau newydd, y berthynas rhwng anghenion cymdeithas, diwydiant ac arloesedd. Mynegodd Kelly Jordan, Uwch-swyddog Mentergarwch, ei boddhad drwy ddweud, "Gwnaeth disgyblion Brynteg feddwl am syniadau gwych yn eu sesiynau ymneilltuo, a wnaeth ganolbwyntio ar feddwl am gynnyrch yr oedd ei angen".
Mae'r fenter hon wedi rhoi cyflwyniad cofiadwy i ddisgyblion Brynteg i fywyd mewn prifysgol ond hefyd gwnaeth feithrin creadigrwydd, meddwl yn feirniadol, a dealltwriaeth ddyfnach o faterion hanesyddol a chyfoes. Mae Prifysgol Abertawe'n parhau i arwain y ffordd ar gyfer profiadau addysgol arloesol, gan greu effaith barhaus ar y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr.