Bydd Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe’n lansio gradd Meistr mewn Technoleg Ariannol (FinTech) ym mis Medi 2021.
Mae technolegau sy’n tarfu’n effeithio ar bob maes gwasanaethau ariannol, a bydd y cwrs hwn yn ystyried defnydd technoleg ariannol ym myd bancio, yswiriant, rheoli asedau a llawer o sectorau ariannol eraill.
Yn barod ar gyfer gyrfa yn y sector Technoleg Ariannol sy’n ehangu’n gyflym iawn, bydd y rhaglen hon yn eich helpu i gael gwybodaeth arloesol am ddefnydd technoleg ‘blockchain’, arian digidol, Data Mawr a deallusrwydd artiffisial yn y byd ariannol.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o amgylchedd technoleg ariannol, yn meithrin sgiliau o ran rhaglennu, dysgu gan beiriannau a diogelwch rhwydweithiau yn ogystal â gwybodaeth am sefydliadau a systemau’r marchnadoedd ariannol.
Bydd yr MSc yn cyfuno arbenigedd o Adran Gyfrifeg a Chyllid yr Ysgol Reolaeth, yn ogystal ag Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol a leolir yn agos i’r Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae yn y Ffowndri Gyfrifiadol.
”Drwy ddod â’r ddwy set o arbenigedd at ei gilydd, bydd y cwrs yn darparu cyfuniad pwerus iawn a fydd yn arwain at ddealltwriaeth well gan y myfyrwyr o fyd cyllid mewn amgylchedd technolegol, a bydd yn gwella’r gronfa ddoniau sydd â’r sgiliau ar gyfer y sector hwn,” meddai Dr Mike Buckle, Cyfarwyddwr y Rhaglen
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen y cwrs ar y we: www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/addysgir/ysgol-reolaeth/msc-technoleg-ariannol
Ar gyfer ymholiadau, e-bostiwch study@abertawe.ac.uk neu ffoniwch ++44 (0)1792 295358