Mae'n bleser mawr gan yr Adran Economeg yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe gyhoeddi gweminar gyda'r economegydd a’r awdur adnabyddus, Vicky Pryce.
Dyddiad: Nos Iau 15 Hydref am 6.15pm
Bydd Vicky Pryce yn siarad am anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y DU a rôl y llywodraeth wrth fynd i'r afael â hyn.
Bydd ei sgwrs yn cynnwys tystiolaeth am fylchau rhwng cyflogau'r rhywiau a chosbau am famolaeth, a bydd hi’n sôn am amrywiadau mewn polisi rhyngwladol yn y meysydd hyn, gan lunio gwersi ar gyfer llunio polisïau'r DU.
Mae'r Athro Vicky Pryce yn Brif Ymgynghorydd Economaidd yn y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Economeg a Busnes. Mae'n gyn Gyd-bennaeth Gwasanaeth Economeg Llywodraeth y DU a bu'n Gyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Economeg yn yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau ac mae hi wedi bod yn bartner yn KPMG. Mae hi'n Gymrawd ac yn Aelod o Gyngor Academi Gwyddorau Cymdeithasol y DU, yn Gymrawd Cymdeithas yr Economegwyr Proffesiynol ac yn Gydymaith Academi Reolaeth Prydain. Mae Pryce yn awdur nifer o lyfrau hefyd a'r un ddiweddaraf yw Women vs Capitalism: Why we can’t have it all in a free market economy.
Mae croeso i bawb ond mae cadw lle'n hanfodol oherwydd y bydd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael yn y gweminar Zoom.
Bydd cyfle i'r gynulleidfa ofyn cwestiynau