Mae tîm rhyngwladol, gan gynnwys Frédéric Boy (Prifysgol Abertawe, y DU), Talita Greyling (Prifysgol Johannesburg, De Affrica), a Stephanié Rossouw (Prifysgol Dechnoleg Auckland, Seland Newydd), wedi lansio GNH.Today, sef y mynegai Hapusrwydd Cenedlaethol Gros cyntaf i gael ei bweru gan AI. Mae'r offeryn hwn yn rhoi cipolygon dyddiol o hapusrwydd y DU, yn enwedig yn ystod cyfnodau etholiad.
Ymagwedd Gyfoes at Fesur Hapusrwydd
Nid yw dulliau traddodiadol o fesur hapusrwydd cenedlaethol, sydd yn aml yn seiliedig ar arolygon cyfnodol, yn addas at y diben yn yr oes ddigidol gyflym. Mae prosiect GNH.today yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a data ffynhonnell agored i gynnig cipolygon cost-effeithiol, bron mewn amser go iawn, ar les y boblogaeth. Yn wahanol i’r dull traddodiadol o gloddio’r cyfryngau cymdeithasol, mae'r offeryn hwn yn dadansoddi defnydd o eiriau allweddol sy'n gysylltiedig ag emosiynau mewn peiriannau chwilio.
Dilysu Deallusrwydd Artiffisial yn Erbyn Data'r Byd Go Iawn
Mae mynegai GNH.today wedi cael ei brofi'n drylwyr yn erbyn data gan Swyddfa Ystadegau Gwladol y DU, Biwro Cenedlaethol Ystadegau yr Iseldiroedd a data teimladau o Twitter o Dde Affrica. Mae hyn yn sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd yr offeryn.
Cymhwysedd Byd Go Iawn yn ystod Etholiadau
Cafodd yr offeryn a bwerir gan AI ei brofi yn ystod dau etholiad arwyddocaol: Etholiad Cyffredinol De Affrica a gynhaliwyd ar 29 Mai 2024 ac Etholiad Cyffredinol Prydain a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2024. Yn y DU, datgelodd yr offeryn newidiadau o ran hapusrwydd cenedlaethol yn cyfateb i ddigwyddiadau allweddol mewn ymgyrchoedd, megis colledion y Ceidwadwyr a chyhoeddiadau maniffesto'r Blaid Lafur.
Arwyddocâd GNH.Today
Mae GNH.Today yn offeryn newydd sy'n harneisio data ffynhonnell agored i fesur cynnydd cymdeithasol yn dryloyw. Ei nod yw cefnogi llunwyr penderfyniadau, newyddiadurwyr a sefydliadau dyngarol i ddeall a gwella lles y boblogaeth.
Ffigwr 1: Datblygiad Mynegai Hapusrwydd GNH.Today a bwerir gan AI yn y Deyrnas Unedig rhwng 1 Mai 2024 a 7/07/2024. Mae'r mynegai yn defnyddio graddfa 0 i 10 lle mae 0 yn dynodi anhapusrwydd, 5 yn cynrychioli sefyllfa niwtral a 10 yn dynodi hapusrwydd eithafol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
- Dr Frédéric Boy: F.A.Boy@abertawe.ac.uk
- Yr Athro Talita Greyling: talitag@uj.ac.za
- Dr Stephanié Rossouw: stephanie.rossouw@aut.ac.nz