Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe gyflwyno Rheoli Arloesi ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2023, sef cyfres ymchwil flaengar sy'n archwilio dyfodol arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r casgliad helaeth hwn o 19 o bapurau'n arddangos arbenigedd academyddion blaengar o Ysgolion Rheolaeth, Peirianneg a Meddygaeth Prifysgol Abertawe, ar y cyd â chyfraniadau gan gydweithredwyr rhyngwladol.

Mae'r gyfres wedi cael ei churadu gan dîm o academyddion uchel eu bri: Dr Roderick Thomas, Dr Dan Rees, yr Athro Gareth Davies, yr Athro Nick Rich, yr Athro Jonathon Gray, yr Athro Hamish Laing, a Ms Corina Edwards o'r Ysgol Reolaeth; Dr Vasilios Samaras a'r Athro Ian Mabbett o'r Ysgol Beirianneg; a Dr Jeffrey Davies a Dr Natalie DeMello o'r Ysgol Feddygaeth, gyda mewnbwn rhyngwladol gan yr Athro Ricardo Vardasca o Bortiwgal. Gyda'i gilydd, maent yn cynnig gwybodaeth newydd am sut gall ymagweddau arloesol drawsnewid y sector gofal iechyd.

Mae'r gyfres ymchwil hon yn mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd allweddol yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnig atebion a strategaethau rheoli blaengar sydd â'r potensial i lywio dyfodol y diwydiant. Mae'r cydweithrediad rhyngddisgyblaethol yn sicrhau safbwynt cynhwysfawr, sy'n golygu bod y casgliad hwn yn adnodd gwerthfawr i ysgolheigion, ymarferwyr a llunwyr polisi.

"Mae'n bleser gennym gyflwyno'r gyfres ymchwil hon, sy'n casglu arbenigedd amrywiol ynghyd i fynd i'r afael â heriau cymhleth arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Ein nod yw darparu syniadau y gellir gweithredu arnynt ac a fydd yn ysgogi gwelliannau ystyrlon yn y diwydiant.”  Dr Roderick Thomas, Cyfarwyddwr y Rhaglen, Prifysgol Abertawe

Archwilia'r ymchwil flaengar yn y gyfres ‘Rheoli Arloesi ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2023’ i weld sut mae Prifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran ysgogi arloesedd yn y maes hollbwysig hwn.

Golygwyr:

  • Yr Ysgol Reolaeth: Dr Roderick Thomas, Dr Dan Rees, yr Athro Gareth Davies, yr Athro Nick Rich, yr Athro Jonathon Gray, yr Athro Hamish Laing, Ms Corina Edwards
  • Yr Ysgol Beirianneg: Dr Vasilios Samaras, yr Athro Ian Mabbett
  • Yr Ysgol Feddygaeth: Dr Jeffrey Davies, Dr Natalie DeMello
  • Rhyngwladol: Yr Athro Ricardo Vardasca, Portiwgal

 

Rhannu'r stori