Seminar Menter & Arloesi Seiber Ddiogelwch – Cyflenwad a Galw gyda'r siaradwr gwadd: Rob Norris Is-Lywydd Pennaeth Menter & seiberddiogelwch Ewrop, y dwyrain canol, India ac Affrica
Mae'r Ysgol Reolaeth yn falch o groesawu Rob Norris ar y 13eg Chwefror 2019, 3pm yn ystafell 011. Yn Gymro falch, Rob yw Is-Lywydd Ewrop, y Dwyrain Canol, India ac Affrica (EMEIA) tȋm Seiber-ddiogelwch Fujitsu. Yn ystod ei ymweliad, fe fydd yn siarad â grŵp dethol am yr heriau sy'n wynebu sefydliadau yn y gadwyn gyflenwi seiber-ddiogelwch.
Dechreuodd Rob ei rȏl o arwain busnes seiber-ddiogelwch DU Fujitsu ym mis Ebrill 2014 a thros y 5 mlynedd diwethaf wrth i fygythiadau seibr cynyddu, mae Rob wedi datblygu Fujitsu i fod yn un o gwmnȉoedd seiber ddiogelwch gorau’r byd. Mae Rob wedi gweithio yn y diwydiant TG ers 1988, ac yn ogystal â goruchwylio brosiectau mawr Fujitsu yn y DU ac Iwerddon, mae'n aelod o bwyllgor Busnes Yn Y Gymuned (BITC) a tîm ymateb seiber y Grŵp Ymateb i Argyfyngau Busnes (BERG).
Mae Rob yn awyddus i siarad â grŵp o fyfyrwyr ac academyddion yr Ysgol Reolaeth am tua 45 munud wedi'i ddilyn gan Q&A egniol. Anfonwch e-bost i l.a.huxtable-thomas@Swansea.ac.uk i gadarnhau eich presenoldeb.