Wrth geisio datod cymhlethdodau hunaniaethau amrywiol yn y byd gwaith, mae'r rhaglen Breaking Binaries Research (BBR) wedi ymddangos fel grym arloesol.
Gyda'r nod o herio dealltwriaeth gonfensiynol o hunaniaeth yng nghyd-destun gweithleoedd, cred BBR fod gwaith a gweithleoedd yn chwarae rhan ganolog yn yr agendâu cyfiawnder a chydraddoldeb ehangach.
Roedd mis Tachwedd yn fis prysur i'r tîm BBR, a'r uchafbwynt oedd cymryd rhan yn Symposiwm Dringo Menywod 2023 (WCS23) a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ddringo Lerpwl, Sandhills. Gwnaeth y symposiwm, a dynnodd sylw at y ffyrdd amlweddog y caiff hunaniaethau eu deall, eu tybio a'u creu, gynnig platfform unigryw i BBR ymgysylltu â chynulleidfa amrywiol y tu hwnt i'r byd academaidd.
Fel academyddion, mae'r tîm BBR yn cydnabod yr heriau i ledaenu canfyddiadau ymchwil i'r rhai hynny y tu hwnt i'r byd academaidd ac yn pwysleisio pwysigrwydd pontio'r bwlch hwn. Mae WCS23, yn ôl BBR, yn cynnig llwybr hollbwysig ar gyfer cyflawni'r nod hwn, gan ei fod yn atgoffa pam fod ei gwaith ymchwil yn bwysig a pham bod angen ei gyfleu'n effeithiol i gynulleidfa ehangach.
Mae cenhadaeth graidd BBR yn syml - defnyddio tystiolaeth o safon ar hunaniaethau amrywiol, gan geisio gwneud gweithleoedd yn fwy diogel a hygyrch i bawb yn y bôn. Mae 'pawb' yn y cyd-destun hwn yn cynnwys ystod eang o unigolion o gefndiroedd a phrofiadau gwahanol.
Dangosodd WCS23 fodel o le cwbl hygyrch, sy'n dyst i ethos cynhwysol trefnwyr y digwyddiad. Mae'r cynwysoldeb hwn, o ran cynllunio a gweithredu, yn myfyrio ar nod ehangach yng nghymuned 'ddringo' y DU er mwyn gwneud y gamp yn hygyrch i bawb.
Dros y degawd diwethaf, mae dringo mewnol wedi datblygu'n gyflym, gan drawsnewid i un o'r campau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Nododd Cymdeithas Dringo Waliau Prydain fod tua 1 miliwn o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dringo dan do yn 2021, gyda thros 100,000 yn cymryd rhan yn rheolaidd. Ond nid y niferoedd yn unig sy'n bwysig; mae'r twf mewn cyfranogiad yn pwysleisio amrywiaeth unigolion sy'n dewis dringo at ddibenion gwaith a hamdden.
Mae'r heriau a wynebir gan y diwydiant dringo'n debyg i'r rhai hynny a geir mewn gweithleoedd cyfoes ar draws y DU, gan gynnwys arferion gwahaniaethu a diffyg cynwysoldeb. Roedd WCS23 yn blatfform nid yn unig i daflu goleuni ar yr heriau hyn ond hefyd i fynd i'r afael â nhw ar y cyd mewn amgylchedd diogel sy'n rhannu gwybodaeth.
Roedd y tîm BBR yn ddiolchgar iawn am fod yn rhan o gymuned sy'n ymrwymedig i ysgogi newid a gwneud iddo barhau. Roedd WCS23, yn llawer mwy na dangos y gallu i addasu. Dangoswyd bod dringo dan do yn cynnwys tapestri cyfoethog o brofiadau a hunaniaethau.
Wrth ddiolch i'r trefnwyr a'r cyfranogwyr a wnaeth WCS23 yn bosib, mae'r rhaglen yn ymroddedig i'r genhadaeth o feithrin cynwysoldeb ac amrywiaeth mewn gweithleoedd, gan ategu'r ysbryd o newid cadarnhaol a welwyd yn Symposiwm Dringo Menywod 2023.
Mae ein holl brosiectau ymchwil wedi cael adolygiad a chymeradwyaeth moesegol gan Brifysgol Abertawe. Os hoffech wybod mwy am y broses adolygiad moesegol, cysylltwch â Helen Williams neu Katrina Pritchard gyda chwestiynau sydd gennych, neu os hoffech drafod yr ymchwil hon â rhywun arall, e-bostiwch Swyddfa Ymchwil yr Ysgol Reolaeth (FHSS-ResearchSupport@abertawe.ac.uk).
I archwilio ymhellach a dysgu am ymdrechion diweddaraf y tîm ymchwil Breaking Binaries, cliciwch yma.