Ymchwilydd PhD

Fy nheitl PhD yw Trosglwyddiadau mewn Gofal: Anghenion gwybodaeth ynghylch rhyddhau person hŷn o ysbyty

Fy Nghefndir

Wedi graddio gyda B.A. (Anrh.) mewn Seicoleg o Brifysgol Abertawe yn 1996, gweithiais yn y sector gwirfoddol hyd at 2008 (gan gynnwys swyddi Gwybodaeth mewn dau gyngor gwirfoddol sirol ac mewn rôl gyngor gwirfoddol yn y Ganolfan Gynghori leol).

O 2008, cefais fy nghyflogi gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot mewn tîm gwaith cymdeithasol ysbyty. Roedd fy rôl yn cynnwys asesiad a rheolaeth gofal o fwyafrif o bobl hŷn a oedd yn cael eu hanfon i’r ysbyty. Yn ystod fy nghyflogaeth, graddiais eto o Brifysgol Abertawe gyda BSc mewn Gwaith Cymdeithasol.

Wedi gadael fy swydd gyda’r Cyngor, cefais nifer o gytundebau tymor byr fel cynorthwyydd ymchwil gyda’r Canolfan am Heneiddio Arloesol (CIA). Yn 2017 symudais i swydd weinyddol gyda’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR).

Y flwyddyn ganlynol, cefais swydd fel Cydlynydd Gweinyddol a Chyfathrebu gyda’r Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol (WSSCR). Rwy’n parhau i weithio gyda’r Ysgol un diwrnod yr wythnos, wrth astudio ar gyfer PhD yn llawn-amser.

Fy ymchwil

Pwrpas y PhD yw archwilio disgwyliadau ac anghenion gwybodaeth oedolion hŷn (gan gynnwys pobl yn byw â dementia), aelodau’r teulu a gofalwyr sy’n perthyn/neu heb fod yn perthyn o amgylch rhyddhau o’r ysbyty mewn i’r gymuned (gofal cymdeithasol). Gan dynnu ar nifer o ddulliau ymchwil, bydd y PhD yn:

  • Ymgymryd ag adolygiad o ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn y maes hwn i adnabod blychau yn yr hyn yr ydym eisoes yn gwybod. Bydd yr adolygiad yma yn tywys y casgliad o ddata ansoddol (cyfweliadau).
  • Arsylwi sut y cyflwynir gwybodaeth i bobl hŷn a’u teuluoedd a’u gofalwyr fel rhan o’r broses ryddhau mewn ysbyty.
  • Archwilio’r wybodaeth a roddir i bobl hŷn pan gânt eu rhyddhau o’r ysbyty.
  • Ymgymryd â chyfweliadau gyda phobl hŷn a’u teuluoedd i weld sut fydd eu disgwyliadau a’u hanghenion am wybodaeth yn gwahaniaethu o’r hyn sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddarparu. Bydd hyn yn cynnwys pa un ai a ydy’r wybodaeth yn cynnwys testunau sydd angen arnynt, gan ystyried eu disgwyliadau yn ymwneud â’r broses ryddhau (e.e. symud mewn i ofal preswyl/nyrsio neu cael y sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen i reoli gofal).
  • Gweithio gyda phobl hŷn, gofalwyr teulu a staff iechyd allweddol arall a staff gofal cymdeithasol i gyd-gynhyrchu gwybodaeth rhyddhau addas.

Heb law am hyn, mae fy niddordebau ymchwil ehangach yn cynnwys: Dementia, Gallu Meddyliol, a’r Gwerthoedd a Roddir ar Ofalwyr.

Goruchwylwyr

Yr Athro Vanessa Burholt, Dr Deborah Morgan

Cyswllt

123412@swansea.ac.uk 

Llun o Catherine Launder