Bydd y Gwasanaeth Cymunedol Anafiadau i'r Ymennydd ym Mwrdd Iechyd ABMU yn gweithio gydag Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe i redeg Grŵp Seicoleg Gadarnhaol i bobl sy'n byw gyda chyflwr niwrolegol.
Crynodeb o’r rhaglen
Seicoleg Bositif yw'r ‘astudiaeth wyddonol o weithrediad dynol gorau posibl sy'n ceisio darganfod a hyrwyddo'r ffactorau sy'n galluogi unigolion a'u cymunedau i ffynnu '(Seligman, 2005). Ceisia Seicoleg Gadarnhaol ehangu ffocws seicoleg yn fwriadol i roi pwyslais priodol ar agweddau cadarnhaol ar brofiad dynol, gweithredoedd a pherthnasau.
Dengys llu o ymchwil o faes Seicoleg Gadarnhaol bod hapusrwydd yn sgil y gellir ei dysgu. Nod ein Rhaglen Seicoleg Gadarnhaol yw addysgu cyfranogwyr â chyflyrau niwrolegol am dechnegau ac ymagweddau y gallant eu defnyddio i fyw bywyd hapusach, mwy boddhaus. Mae'r rhaglen yn dysgu sesiynau ar wyddoniaeth hapusrwydd, manteision llif o emosiynau cadarnhaol, sut mae cael rhagolwg mwy optimistaidd, ymarferion i gynyddu gwytnwch ac effaith gadarnhaol. Mae hefyd yn dysgu sgiliau ymlacio a gofalu ac yn helpu pobl i nodi a defnyddio eu cryfderau unigryw er mwyn byw bywyd da. Gan fod cyflwr niwrolegol wedi effeithio ar y cyfranogwyr i gyd, mae'r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar helpu pobl i addasu i'r cyfyngiadau a osodir gan eu cyflwr, a symud ymlaen er gwaethaf hyn, gan ganolbwyntio ar yr hyn y gallant ei wneud.
Mae'r rhaglen yn cael ei hwyluso gan glinigwyr o'r Gwasanaeth Anafiadau Cymunedol ym Mwrdd Iechyd ABMU ac academyddion o'r Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r grŵp yn cynnwys sawl ‘mentor 'sydd wedi cael eu heffeithio'n bersonol gan gyflyrau niwrolegol. Mae'r mentoriaid hyn wedi goresgyn llawer o adfyd ac wedi gorfod ail-adeiladu pob agwedd ar eu bywydau. Er gwaethaf hyn, maent bellach yn teimlo ymdeimlad dwfn o fodlonrwydd ac eisiau'r cyfle i helpu eraill i deimlo gobaith ac i ffynnu er gwaethaf eu cyflwr.
Dim ond ychydig o astudiaethau sydd wedi bod yn edrych ar gymhwyso Seicoleg Gadarnhaol i'r bobl adsefydlu y mae cyflyrau niwrolegol yn effeithio arnynt. Bydd ein cydweithrediad yn casglu data i archwilio a yw'r dull hwn yn ddefnyddiol. Mae data peilot a gasglwyd dros y blynyddoedd diwethaf yng Ngwasanaeth Anafiadau Cymunedol yr Ymennydd wedi dangos canlyniadau addawol a gobeithir felly y gall y cydweithio newydd yma adeiladu ar hyn.
Edrychwn hefyd ar yr effaith y mae rolau mentoriaid yn eu cael ar gyfranogwyr mewn perthynas â darparu cyfrwng ar gyfer ymdeimlad o ystyr a chyflawniad. Gobeithiwn y gallwn greu rolau ar gyfer mentoriaid yn yr Academi Iechyd a Llesiant fel y gallant ddefnyddio eu sgiliau a'u profiadau er budd eu cymuned.
Pwy sy’n hwyluso’r Grwpiau
Clinigwyr sydd ynghlwm: Dr Zoe Fisher (Seicolegydd Clinigol), Kelly Phipps (Seicolegydd Cynorthwyol) a Helen Bankhead (Therapydd Galwedigaethol).
Seicolegwyr Academaidd sydd ynghlwm: Dr Jeremy Tree a Dr Andrew Kemp
Myfyriwr Seicoleg MSc/seicolegydd cynorthwyol anrhydeddus: Alexandra Hamill