Carys Evans
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- BA Y Cyfryngau a Chyfathrebu
Pan welais fod Prifysgol Abertawe yn cynnig cyrsiau gyda “Blwyddyn mewn Diwydiant” roedd hyn yn apelio’n fawr ata i yn ogystal â’r ffigyrau cyflogadwyedd uchel. Roedd hefyd llwyth o gefnogaeth ar gael I fyfyrwyr Cymraeg. Cefais brofiadau gwych yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg nid yn unig yn ysgrifenedig ond wrth wneud y gwaith ymarferol hefyd fel ffilmio, cyflwyno a recordio! Yn ystod fy mhedwaredd flwyddyn dechreuais interniaeth gyda Chwaraeon Abertawe, un o bartneriaid y Brifysgol a mwynheais yn fawr.
Dwi mor ddiolchgar i gael astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ac felly cael profiad gwaith gyda chwmn.au Cymreig. Mae cymaint o gefnogaeth i fyfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, o diwtoriaid Cymraeg personol i lety Cymraeg ar y ddau gampws. Rydw i wedi cael cyfleoedd gwych ym Mhrifysgol Abertawe fel siaradwr Cymraeg fel recordio podlediadau, recordio ar gyfer y BBC ac rwy wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn ysgoloriaeth ariannol am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Fy nghyngor i ar gyfer unrhyw ddarpar fyfyriwr fyddai, manteisia ar bob cyfle gall y Brifysgol ei gynnig i ti – mae cymaint o gefnogaeth yma a phrofiadau bythgofiadwy yn aros i ti!