Leah Morgan
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- BSc Gwyddor Gofal Iechyd (Meddygaeth Niwclear)
Rwyf wedi bod wrth fy modd yn ystod fy amser ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd ei bod wedi rhoi cyfle i mi gwrdd â phobl newydd, dod o hyd i hobïau newydd ac archwilio fy mrwdfrydedd am feddygaeth niwclear.
Pam Abertawe?
Hefyd, rwyf wir wedi mwynhau astudio fy nghwrs ym Mhrifysgol Abertawe, oherwydd bod y cymysgedd o ddarlithoedd wyneb yn wyneb a lleoliadau gwaith mewn ysbyty wedi bod yn ddelfrydol, gan fy
ngalluogi i ddefnyddio'r wybodaeth ddamcaniaethol rwyf wedi'i dysgu mewn ymarfer clinigol, wrth i mi ddatblygu'r sgiliau y mae eu hangen arnaf i fod yn dechnolegydd clinigol yn y GIG ar yr un
pryd. O fy mhrofiad i, mae'r cyfuniad o ddarlithoedd a lleoliadau gwaith wedi fy nghymell drwy gydol y cwrs ac mae hwn wedi fy ngalluogi i gyflawni fy ngorau. Mae'r lleoliadau gwaith clinigol
hefyd wedi fy ngalluogi i rwydweithio â phobl yn y maes ac, o ganlyniad i hyn, rwyf wedi cael swydd ym maes meddygaeth niwclear mewn canolfan ganser a chefais gyfle i gyflwyno fy nhraethawd
estynedig israddedig yn un o gynadleddau Ffiseg Feddygol Cymru Gyfan. Mae'r darlithwyr hefyd wedi cyfrannu'n sylweddol at faint rwyf wedi mwynhau'r cwrs a gwnaethant fy annog i gyflawni fy
ngorau. Roeddent bob amser ar gael i ateb fy nghwestiynau a gwnaethant ymdrech i ddod i adnabod pob un myfyriwr.
Nid oes llawer o brifysgolion lle gallwch chi gerdded ar hyd y traeth ychydig funudau ar ôl darlith nac sy'n cynnig cynifer o gyfleoedd â Phrifysgol Abertawe. Rwyf wir yn falch fy mod i wedi dewis Prifysgol Abertawe.
Beth yw dy hoff bethau am Abertawe?
Padlfyrddio ym mae Oxwich (30 munud mewn car o Gampws Singleton), Parc Singleton a'r bobl garedig a chyfeillgar.
Pam dewisais ti astudio dy radd yn Abertawe?
Roedd hi'n ymddangos fel y brifysgol orau i bobl sy'n mwynhau bod yn yr awyr agored ac roeddwn i'n dwlu ar y syniad o fynd am dro ar hyd y traeth ar ôl diwrnod o ddarlithoedd.
Beth yw dy hoff beth am dy gwrs?
Y lleoliadau gwaith clinigol oherwydd eu bod yn fy ngalluogi i deimlo fel rhan o'r tîm mewn llawer o adrannau meddygaeth niwclear ledled Cymru ac maent wedi rhoi sgiliau a chysylltiadau
gwerthfawr i mi a fydd o fudd ar ôl i mi raddio.
Beth wyt ti'n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i ti raddio?
Rwy'n gobeithio gweithio mewn adran Meddygaeth Niwclear yng Nghymru fel Technolegydd Clinigol, gan helpu i ddiagnosio a thrin amrywiaeth o glefydau gan gynnwys canser.
Fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Yn bendant! Mae Prifysgol Abertawe wedi cynnig llawer o gyfleoedd gwych i mi sydd wedi fy helpu i gwrdd â phobl sydd o'r un meddylfryd â fi ac sydd wedi fy helpu i gyflawni fy mhotensial llawn.
Wyt ti'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Yn ystod fy amser fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rwyf wedi ymuno â llawer o gymdeithasau, gan gynnwys Cymdeithas Codi a Rhoi, Cymdeithas Cerddoriaeth Fyw a Chymdeithas Fynydda, ac mae hyn
wedi rhoi hwb i fy hyder yn ogystal â fy ngalluogi i gwrdd â phobl sydd o'r un meddylfryd â mi. Drwy fod yn rhan o'r cymdeithasau hyn, rwyf wedi cymryd rhan yn yr her fwyaf o'm hoes ac rwyf wedi
magu'r hyder y bydd ei angen arnaf ar gyfer y dyfodol. Yn ystod fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe, des i'n arweinydd her ar gyfer hirdaith i Wersyll Cychwyn Everest wrth godi arian ar gyfer
elusen. Roedd hwn yn brofiad anhygoel a byddwn i'n ei argymell i bawb. Oherwydd y cyfle hwn, cwrddais i â phobl a oedd o'r un meddylfryd â mi ac roeddwn i'n gallu gwella fy hyder a'm
harweinyddiaeth. Rwyf hefyd wedi cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau meic agored gyda'r hwyr yn undeb y myfyrwyr, barbeciwiau ar y traeth a hirdaith i Wersyll Cychwyn Annapurna gyda'r
Brifysgol.
Wyt ti wedi byw mewn preswylfa yn ystod dy astudiaethau?
Roedd byw mewn preswylfa'n ffordd dda o ymgolli ym mywyd y Brifysgol. Roeddwn i'n byw mewn fflat a rennir gyda phobl a oedd yn astudio cyrsiau tebyg i fy nghwrs i ac a oedd tua'r un oedran â fi
felly roeddwn i'n gallu gwneud ffrindiau'n gyflym.