Niamh Allington
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
Y traethau - mae Abertawe'n anhygoel i syrffio a dwi wedi bod yn ddigon ffodus i nofio gyda dolffiniaid yn Rhosili.
Y bariau/bywyd nos - peidiwch â cholli cwis tafarn The Brew Stone!!
Yn agos at Fannau Brycheiniog. Yn berffaith ar gyfer gwylio codiad yr haul dros Ben y Fan.
Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Mae'r cyfleusterau o'r radd flaenaf, roedd y staff yn gyfeillgar ar y diwrnod agored ac roedd yna gyfleoedd gwych i weithio gyda thimau chwaraeon elît ochr yn ochr â fy astudiaethau.
Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Rwyf wedi mwynhau cynnwys y modiwlau a ddewisais a phob amser yn gweld y darlithoedd yn ddiddorol. Mae'r cwrs hefyd wedi rhoi cyfleoedd i mi ennill profiad ochr yn ochr â fy astudiaethau, trwy weithio gyda thimau proffesiynol fel Nofio Cymru a Chlwb Rygbi'r Scarlets.
Sut brofiad oedd astudio yn ystod y pandemig?
Heriol, ond roedd y darlithoedd yn ddefnyddiol i fy nghefnogi trwy fy astudiaethau gyda darlithoedd ar-lein a galwadau Zoom.
Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Rwy'n gobeithio parhau â fy astudiaethau a chwblhau Gradd Meistr mewn Meddygaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Caerwysg.
Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?
Byddwn, ni fyddwn yn oedi wrth argymell Prifysgol Abertawe i unrhyw un sy'n ei hystyried. Dwi wedi mwynhau fy amser yma yn fawr a byddaf yn drist i adael.
Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Ydw, rwy'n aelod o'r Gymdeithas Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a'r Gymdeithas Awyrofod. Fel cymdeithas academaidd a arweinir gan fyfyrwyr, mae'r gymdeithas Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi fy ngalluogi i gwrdd â myfyrwyr ar draws pob blwyddyn ar y cwrs, gan rannu ein diddordeb a'n hangerdd am wyddor chwaraeon trwy gyfleoedd cymdeithasol.
Ydych chi wedi byw mewn preswylfa yn ystod eich astudiaethau?
Ydw, roeddwn i'n byw ym mhreswylfeydd Campws y Bae yn fy mlwyddyn gyntaf fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd y llety'n wych. Nid oedd yna gyfle i ddiflasu wrth rannu tŷ â 10 o bobl eraill a oedd yn astudio peirianneg a disgyblaethau busnes!! Rhoddodd hyn gyflegwych i fi wneud ffrindiau a lletywyr ar gyfer fy ail flwyddyn.
Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?
Ydw, roeddwn i'n ddigon ffodus i dderbyn interniaeth hyfforddi gyda chlwb rygbi'r Scarlets a arweiniodd at waith rhan-amser. Roedd hyn wedi darparu cyfleoedd i mi ddatblygu fy sgiliau hyfforddi, trefnu gosodiadau'r cae (hyd yn oed ar ddiwrnodau gêm!), gwisgo lan fel Cochyn y Ddraig (masgot y tîm) a dyfarnu gemau.