Rhiannon Piggon
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- BA Hanes
Dewisais Abertawe yn benodol o'r holl brifysgolion eraill yng Nghymru oherwydd ei lleoliad yn y ddinas a'r daith lawr i'r traeth. Rydw i’n astudio ar gampws Singleton a gan fod y campws yn weddol fach rwyt ti’n dod i adnabod wynebau pobl o gwmpas y lle sy’n rhoi ymdeimlad cartrefol a chlos.
Rwy’n astudio Hanes, sy’n bwnc eang gyda'r opsiwn i ddysgu am gyfnodau amser gwahanol. Mae astudio’r pwnc hwn yn Abertawe wedi bod yn wych gan fy mod yn gwneud rhywfaint o’r cwrs yn y Gymraeg. Trwy wneud hyn rydw i wedi cwrdd â phobl debyg i fi ac mae hefyd wedi fy nghyflwyno i gymdeithasau eraill sydd â diddordebau tebyg. Rwy'n mwynhau dysgu am y dadeni ac am gelf o'r cyfnod hwn yn arbennig. Rwy’n credu bod astudio rhan o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg wedi fy helpu i fagu hyder yn y Gymraeg. Rwy' wedi datblygu’r sgil o wneud cyflwyniadau llafar i’r dosbarth sydd yn fy mharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol lle bydd yn rhaid i mi siarad a chario fy hun yn hyderus.
Mae fy mhrofiad hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn gan fy mod i wedi manteisio ar y cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd. Trwy ymuno â chymdeithasau y tu allan i'm hastudiaethau, rwyf wedi gallu rhoi cynnig ar bethau newydd. Mae'r gymuned Gymraeg yma yn Abertawe yn wych. Rydw i wedi ymuno â’r GymGym ac rydym yn cwrdd bob pythefnos a threfnu tripiau gwych gyda myfyrwyr Cymraeg eraill.