Zoë Newman

Zoë Newman

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BEng Peirianneg Fecanyddol (Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant)

Pam dewisaist ti astudio dy radd yn Abertawe?
Astudiais Economeg a llawer o Fathemateg cyn mynd i'r brifysgol. I ddechrau, doedd gen i fawr syniad o'r hyn roeddwn i eisiau ei astudio yn y brifysgol, heblaw am rywbeth yn ymwneud â rhifau. Meddyliais am ddilyn gradd mewn Busnes neu Economeg, ond ar ôl rhywfaint o ymchwil, darganfyddais Beirianneg Fecanyddol — pwnc sy'n cyfuno creadigrwydd â digon o fathemateg. Felly, penderfynais ddilyn Peirianneg Fecanyddol a dechrau chwilio am y brifysgol gywir i mi.
Ar ôl byw yn Derby (yng nghanolbarth Lloegr) drwy gydol fy oes, sy'n un o'r dinasoedd pellaf o unrhyw arfordir, roeddwn i eisiau astudio mewn prifysgol sy'n agos at lan y môr. Fodd bynnag, gan nad oeddwn i wedi astudio Ffiseg, roedd fy opsiynau yn gyfyngedig. Ar ôl adolygu tablau cynghrair a Google Maps, des i o hyd i Brifysgol Abertawe, y brifysgol uchaf ei safle o ran peirianneg ar gyfer y rhai nad oeddent wedi astudio Ffiseg ac eisiau bod yn agos at y môr.
Y cyfan oedd angen oedd un diwrnod agored, ac roeddwn i wedi penderfynu. Roedd y lleoliad, y ddinas, y cyfleusterau, a'r awyrgylch cyfeillgar wedi apelio ataf ar unwaith. Roedd y gofynion mynediad yn cyfateb i'm graddau disgwyliedig, felly dewisais astudio Peirianneg Fecanyddol yn Abertawe.

Wyt ti wedi gwneud lleoliad gwaith fel rhan o'th gwrs (Blwyddyn mewn Diwydiant)?
Ydw, treuliais Flwyddyn mewn Diwydiant ar ôl cwblhau fy ail flwyddyn. I ddechrau, gwnes i interniaeth mewn cwmni mawr ond ces i brofiad negyddol oherwydd rheolaeth wael a diffyg cymorth yn fewnol. Ar y llaw arall, roedd tîm cyflogadwyedd y Brifysgol yn gwbl gefnogol, gan fy helpu ym mhob ffordd y gallent tan i mi ymddiswyddo yn y pen draw.
I gwblhau'r cymwyseddau peirianneg gofynnol, cynigiodd Prifysgol Abertawe swydd i mi fel Peiriannydd Datblygu Gofod Gwneuthurwyr. Yn y rôl hon, ces i'r dasg o oruchwylio datblygiad cychwynnol a sefydlu gofod gwneuthurwyr newydd y Brifysgol. Rwyf hefyd yn helpu myfyrwyr i ddefnyddio'r gweithle bob dydd. Rwyf wedi helpu cymdeithasau technegol, prosiectau unigol, a hyd yn oed y timau sy'n cystadlu yn Her Dylunio IMechE, lle gwnes i ddylunio a chynhyrchu'r tlws ar gyfer y tîm buddugol.

Fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?
Byddwn! Rwy'n falch iawn i mi ddewis Abertawe. Rwy'n dwlu ar y cwrs, y ddinas ddydd a nos, y cymorth gan staff, y cyfleoedd i ddysgu pethau newydd, ac—yn olaf ond nid lleiaf—y traeth.

Wyt ti wedi byw mewn preswylfeydd yn ystod dy astudiaethau?
Roeddwn i'n byw ar Gampws y Bae yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ac am ychydig fisoedd yn ystod fy lleoliad gwaith blwyddyn mewn diwydiant, a oedd yn gyfleus iawn ar gyfer mynd i ddarlithoedd a'r gwaith.

Wyt ti wedi gweithio'n rhan-amser yn ystod dy radd?
Rwy' wedi bod yn llysgennad allgymorth i'r brifysgol ar gyfer car LSR Bloodhound a 50% ar gyfer y Dyfodol. Mae'r rolau hyn wedi bod yn hyblyg iawn, ac o ganlyniad roedd modd i mi gydbwyso fy astudiaethau ag ennill arian ychwanegol.

Wyt ti wedi defnyddio'r gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?
Rwy' wedi defnyddio nifer o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr drwy gydol fy astudiaethau, gan gynnwys:
• Iechyd Meddwl
• Y Swyddfa Anableddau
• Cyflogadwyedd
Mae'r cymorth rwy' wedi'i gael wedi bod yn anhygoel gan bob un o'r adrannau hyn.