Rôl Prifysgol Abertawe wrth Ysgogi Arloesi ym maes Deallusrwydd Artiffisial

Mae Prifysgol Abertawe'n chwarae rôl arweiniol mewn menter sy'n torri tir newydd i chwyldroi ymchwil a chymwysiadau ym maes deallusrwydd artiffisial (AI) mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae'r gwaith hwn yn rhan o grant gwerth £100 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) i hybu ymchwil i AI, ac mae gan Abertawe rôl allweddol yn y fenter drawsnewidiol hon.

Hybiau Ymchwil AI ac Edge AI

Mae llywodraeth y DU wedi sefydlu naw hyb ymchwil AI newydd i ysgogi'r genhedlaeth nesaf o arloesedd. Wedi'u cefnogi gan £80 miliwn gan yr EPSRC, bydd yr hybiau hyn yn mynd i'r afael â heriau cymhleth ac yn gwella galluoedd AI mewn gofal iechyd, electroneg a'r tu hwnt. Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad allweddol at y National Edge AI Hub, gan ganolbwyntio ar wella gwydnwch a diogelwch Edge AI, yn enwedig yn erbyn seiberfygythiadau.

Mentrau AI Cyfrifol

Mae ffyrdd cyfrifol a moesegol o ddefnyddio AI yn flaenoriaeth allweddol, ac mae’r AHRC yn ariannu 10 astudiaeth gwmpasu fel rhan o'r rhaglen BRAID (Bridging Responsible AI Divides). Nod yr astudiaethau hyn yw diffinio AI cyfrifol ym meysydd addysg, plismona a'r diwydiannau creadigol. Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad gweithredol at lunio'r fframweithiau moesegol hyn.

Effaith Drawsnewidiol

Mae cyfranogiad Prifysgol Abertawe yn yr hybiau ymchwil AI hyn yn arwydd o'i hymrwymiad i ddatblygu technoleg AI mewn ffordd gyfrifol. Disgwylir i'r ymdrechion hyn arwain at arloesedd chwyldroadol ym meysydd gofal iechyd, seiber-amddiffyn ac electroneg ynni-effeithlon. Drwy gyfrannu at y mentrau hyn, mae Prifysgol Abertawe'n gwella ei galluoedd ymchwil ac yn dylanwadu ar ddyfodol AI yn y DU a'r tu hwnt.

Mae'r prosiectau effaith fawr hyn yn sicrhau bod y DU yn parhau i fod ar flaen y gad ym meysydd ymchwil ac arloesi AI, gan feithrin twf economaidd a gwella ansawdd bywyd. Mae cyfranogiad Prifysgol Abertawe'n enghraifft o'i hymroddiad i ddyfodol sy'n elwa o dechnoleg uwch a sylfaen foesegol gadarn.

"Mae bod yn rhan o'r hybiau ymchwil AI arloesol hyn yn rhoi cyfle i ni fanteisio ar ein harbenigedd a chyfrannu at ddatblygiadau a gaiff effeithiau pellgyrhaeddol," meddai'r Athro Xianghua Xie, sy'n Gyd-ymchwilydd ar y prosiect ac yn brif ymchwilydd, yn Athro ac yn Bennaeth Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. "Rydyn ni'n ymrwymedig i sicrhau bod AI yn datblygu mewn ffordd arloesol a chyfrifol."

Gallwch ddarllen y manylion llawn yma: https://www.ukri.org/news/100m-boost-in-ai-research-will-propel-transformative-innovations/

Rhannu'r stori