21ain yng Nghynghrair Prifysgolion People and Planet 2024/25
Rydym yn safle 21 yng Nghynghrair Prifysgolion People and Planet, ar hyn o bryd rydym yn safle 21 o 149 o brifysgolion.
Mae ein Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd (2021-2025) sy’n cydweddu â Gweledigaeth Strategol a Phwrpas y Brifysgol - yn nodi sut rydym yn gweithredu ein Polisi Cynaliadwyedd, ac yn ein hymrwymo i gamau gweithredu ar draws pedair thema allweddol:Yr Argyfwng Hinsawdd, Ein Hamgylchedd Naturiol, Ein Hamgylchedd Gwaith ac Ein Teithio.
Rydym hefyd yn cyfrannu at nodau datblygu cynaliadwy allweddol eraill:Lles ac Iechyd Dynol, Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig gweithio ar y cyd â'n cymuned ymchwil i sicrhau dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb.
Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
Poriwch y adrannau isod i ddarganfod sut y gallwch fod yn rhan o'n cymuned sy’n ymwybodol o’r hinsawdd:
O lanhau traethau a garddio cynaliadwy, i grefftio blychau adar a gwneud ffrindiau, mae digon i chi ei wneud a chymryd rhan ynddo ym Mhrifysgol Abertawe.
Porwch ein digwyddiadau drosodd ar Eventbrite.