Ben our Biodiversity Officer and Chris from Zombie Plastics with a trailer full of waste collected during a beach clean

Lleihau gwastraff plastig a'i droi'n rhywbeth cadarnhaol

Gwahoddwyd Zombie Plastics i'n sesiynau glanhau'r traeth yn Nhwyni Crymlyn, ein Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar Gampws y Bae, i gael sgwrs â ni i drafod ble gallwn weithio gyda'n gilydd. Mae Zombie Plastics yn gwmni lleol sy'n casglu gwastraff plastigion o draethau, cartrefi a busnesau ledled Abertawe a Phenrhyn Gŵyr, i'w didoli, eu glanhau a'u darnio, cyn eu mowldio'n gynnyrch gwydn, cynaliadwy ac unigryw. Mae hyn yn helpu i leihau gwastraff plastig, lleihau allyriadau a chefnogi economi gylchol.

Fe'u syfrdanwyd yn llwyr gan faint o blastig oedd yn cyrraedd y traeth. Cawson ni ymgyrch glanhau'r traeth lwyddiannus gyda mwy na 20 o wirfoddolwyr allan yn creu effaith enfawr wrth gasglu cymaint o wastraff â phosib.

Roedd ôl-gerbyd llawn gwastraff wedi'i gasglu, ac roedd Chris o Zombie Plastics wedi bod yn profi ar y traeth i ganfod beth y gallai ei ddefnyddio yn ôl yn y ganolfan ar gyfer cynnyrch economi gylchol gwych er mwyn i'n tîm godi ymwybyddiaeth o'n hymgyrchoedd glanhau traethau, a'r camau gweithredu rydym yn eu cymryd i amddiffyn Twyni Crymlyn, ein Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Roedd Zombie Plastics wedi mynd â llawer o blastigion a rhaff bysgota o'r ymgyrch glanhau’r traeth i greu carabiners wedi'u personoli ar gyfer poteli dŵr, allweddi car a phob math o ddatrysiadau storio defnyddiol. Mae hyn yn helpu gwyro gwastraff plastig halogedig o ffrydiau gwastraff na ellir ei ailgylchu i anrhegion cynaliadwy'r economi gylchol i'n tîm eu rhoi i'n glanhawyr traethau ardderchog; anrhegion hynod gynaliadwy!

Gallwch ddarllen mwy am Zombie Plastics yma.

Dilynwch ni ar Eventbrite i gadw’n gyfredol â dyddiadau ein hymgyrchoedd glanhau traethau sydd ar ddod.

Rhannu'r stori