Cydweithio'n Agos Ag Ymchwilwyr O'r Gig A Diwydiant

Mae Uned Dreialon Abertawe yn rhan o Rwydwaith Unedau Treialon Clinigol Cofrestredig Cydweithrediad Ymchwil Clinigol y DU ac yn cael cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Ein nod yw gwella iechyd pobl Cymru a thu hwnt drwy wella nifer, cynnydd ac ansawdd treialon mewn iechyd a gofal cymdeithasol gan gyfeirio'n benodol at ofal eilaidd a gofal brys, yn enwedig mewn gastroenteroleg ac iechyd meddwl.

Tîm Uned Treialon Abertawe

Rydym yn cynnig cyngor a chymorth ar fethodoleg i dreialon clinigol, wrth gynllunio treialon newydd ac wrth geisio am grantiau. Ar ôl ceisiadau llwyddiannus, rydym yn gweithio o fewn timau treialon i ddatblygu, cychwyn, cynnal, rheoli, dadansoddi a chyflwyno adroddiadau am astudiaethau a ariennir.

Mewn partneriaeth â grŵp mawr o gydweithwyr, rydym wedi rhedeg bron 50 o dreialon gwerth mwy na £20m.

Canolbwynt Ymchwil

Canlyniadau Ymchwil

TBC

Researcher Talking to Results
Covid Recovery Map Wales

Mesur Iechyd Neu Ansawdd Bywyd Cleifion

Mae mesurau canlyniadau a nodir gan gleifion (PROMs) yn mesur iechyd neu ansawdd bywyd cleifion o'u safbwynt nhw gan ddefnyddio holiaduron wedi'u cwblhau gan y cleifion eu hunain. Gellir eu casglu cyn ac ar ôl triniaeth neu'n rheolaidd mewn cyflyrau hirdymor cronig. Mae mesur a chymhwyso PROMs yn hanfodol er mwyn darparu gofal iechyd o ansawdd uchel drwy werthuso perfformiad darparwyr gofal iechyd ac arwain diwygiadau'r GIG. Maent hefyd yn cynnig llwyfan i gynnwys cleifion a'u gofalwyr wrth ddarparu gofal iechyd a llunio'r GIG. Mae'r Athro Hayley Hutchings wedi sicrhau grantiau fel arweinydd methodolegol PROMs/ansawdd bywyd sy'n werth mwy na £6 miliwn gan gyllidwyr gan gynnwys y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Scar Free Foundation, Cymdeithas Awdioleg Prydain, Boots a Bristol Meyers Sqibb/Pfizer.

Dyma'r ymchwilwyr yn Thema:

Dr Kym Carter

Uwch-swyddog Ymchwil, Health Data Science
+44 (0) 1792 606372
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Greg Fegan

Athro Er Anrhydedd, Faculty of Medicine Health and Life Science
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Hayley Hutchings

Athro, Health Data Science
+44 (0) 1792 513412
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Claire O'Neill

Uwch Arweinydd Ymchwil, Health Data Science
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Julie Peconi

Uwch-swyddog Ymchwil, Health Data Science
+44 (0) 1792 606226
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig